'Diffyg dealltwriaeth am ofal mewn ardaloedd gwledig'

Disgrifiad o'r llun, Dywed Ms Williams fod "yna ddiffyg dealltwriaeth am ofal mewn ardaloedd gwledig"

Er gwaethaf gwelliannau i rai adrannau o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae un cyn-aelod o'r bwrdd yn parhau yn hynod feirniadol o'r modd mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg ac yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddiffyg goruchwyliaeth.

Mae Bethan Russell Williams hefyd honni bod chwe allan o naw o gyfarwyddwyr gweithredol y bwrdd iechyd yn byw y tu allan i Gymru.

Oherwydd hyn, mae 'na ddiffyg dealltwriaeth am ofal mewn ardaloedd gwledig, yn ôl Ms Williams.

Gwadu'r cyhuddiad mae'r bwrdd iechyd, sydd wedi bod dan fesurau arbennig ers 2015.

Fe wnaeth Ms Williams ymddiswyddo o'r bwrdd fis Chwefror am iddi anghytuno gyda'r penderfyniad i symud gofal fasgiwlar o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Ar y pryd, roedd 'na ofnau y byddai cleifion yng Ngwynedd a Môn yn cael eu peryglu petai'r gwasanaethau'n cael eu canoli yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Rhan o'r broblem, yn ôl Ms Williams, yw bod 'na ddiffyg dealltwriaeth am ofal mewn ardal wledig ymysg cyfarwyddwyr gweithredol y bwrdd.

"Fy mhryder ydy bod chwe allan o naw o gyfarwyddwyr gweithredol y bwrdd yn byw tu allan i ogledd Cymru.

"Maen nhw wedi arfer gweithio mewn ymddiriedolaethau lle mae ysbytai yn agos at ei gilydd, felly os y'ch chi am dorri gwasanaeth mewn un ysbyty, yna mae'n hawdd cyrraedd ysbyty arall."

Dywedodd fod gogledd Cymru yn ardal wahanol iawn gan gyfeirio at ddiffyg cludiant ag absenoldeb ffyrdd cyflym.

"Ymgais sydd yma i roi model trefol, neu urban model, a'i drio ffitio fo i weithio mewn ardal wledig."

'Methiant llwyr'

Mae Ms Williams hefyd yn feirniadol o allu'r bwrdd i ddelio â chyllidebau, gan ddweud bod y rheoli presennol yn "fethiant llwyr".

"Pan gafodd y bwrdd ei roi dan fesurau arbennig am y tro cyntaf, mi oedd y ddyled o gwmpas y £20m - mae'r ddyled dros £40m erbyn heddiw."

Rhannu'r bwrdd iechyd i ddwy neu dair adran lai byddai'n datrys y problemau, yn ôl Ms Williams.

"Dwi'n meddwl bod y bwrdd yn rhy fawr - nôl yn y dyddiau pan oedd y byrddau yn llai, roedd 'na falans yn y cyllidebau, mi oedd cleifion yn derbyn gofal lot yn gynt, ac yn gorfod aros llawer llai amdano fo."

'Newidiadau yn hanfodol'

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gwadu'r honiad bod chwe allan o naw o gyfarwyddwyr gweithredol y bwrdd yn byw y tu allan i Gymru.

Ychwanegodd y llefarydd bod "newidiadau i ofal fasgiwlar brys yn hanfodol, oni bai am hynny ni fyddai'r bwrdd yn gallu cynnig unrhyw wasanaeth o gwbl yng ngogledd Cymru".

Ar y mater o rannu'r bwrdd dywedodd "mai tynnu sylw o'r heriau sydd angen eu datrys byddai hyn yn ei wneud".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gwelliannau wedi eu gwneud, ond bod y gweinidog iechyd yn disgwyl gweld gwelliannau i'r gwasanaeth iechyd meddwl ac i reolaeth cyllid.

"Does 'na ddim awgrym y byddai gwneud newidiadau i strwythur y bwrdd yn gwella perfformiad," meddai'r llefarydd.