Â鶹ԼÅÄ

Ynys Enlli yn chwilio am wardeiniaid newydd wedi damwain

  • Cyhoeddwyd
Sophie a Ned ScharerFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Sophie a Ned Scharer gyda'u plant Sam, 10, a Rowan, 12

Mae cwpl gafodd eu dewis i fod yn wardeiniaid ar Ynys Enlli wedi gorfod dychwelyd i'r tir mawr ar ôl damwain ar eu diwrnod cyntaf ar yr ynys.

Bu'n rhaid i Ned a Sophie Scharer roi'r gorau i'w breuddwyd o weithio ar yr ynys oddi ar Ben Llŷn ar ôl i'w mab ddisgyn ac anafu ei goes.

Dywedodd y ddau fod y swydd o fod yn warden - sy'n cael ei gynnig gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli - yn parhau'n "gyfle gwych" i rywun.

Roedd y cwpl o Lanrwst, ynghyd â'u dau blentyn, yn bwriadu treulio tair blynedd ar yr ynys ar ôl cael eu dewis fis Chwefror.

Llwyddodd y ddau i guro 50 o ymgeiswyr eraill i fod yn wardeiniaid ac i fod yn gyfrifol am y warchodfa natur, fferm a gwylfa adar.

Ond ar y diwrnod cyntaf fe wnaeth eu mab Sam, 10 oed, lithro ar greigiau.

Ffynhonnell y llun, Amanda Ruggeri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith yn cynnwys ffermio a gofalu am y warchodfa natur

Dywedodd Mrs Scharer fod hofrennydd Gwylwyr y Glannau wedi ei gludo i'r ysbyty ar y tir mawr o fewn 10 munud.

"Mae gan y warden gysylltiad uniongyrchol gyda Gwylwyr y Glannau, felly er eich bod ar yr ynys mae yna gefnogaeth wych i'w gael," meddai.

Bu'n rhaid i'r fam a'i mab ddychwelyd i'w cartref yn Nyffryn Conwy tra bod ei gŵr yn parhau i weithio ar yr ynys.

Ond yn y diwedd roedd y gwaith yn ormod.

Ffynhonnell y llun, Amanda Ruggeri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r wardeiniaid yn aros ar yr ynys am dair blynedd

"Roedd yn bechod, ond yn y diwedd doedd dim dewis," meddai Mrs Scharer.

"Anlwc oedd o. Byddai beth ddigwyddodd wedi gallu digwydd mewn unrhyw le."

Mae ymddiriedolaeth yr ynys nawr yn chwilio am ddau warden newydd fydd yn byw ar yr ynys, ynghyd â phedwar o drigolion eraill yr ynys, am dair blynedd.

Byddan nhw'n derbyn cyflog o tua £25,000, yn ogystal â llety.

Ffynhonnell y llun, Amanda Ruggeri
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygaf o Enlli draw at Iwerddon

Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn gorfforol iach, ac yn gallu ymdopi gyda chyfnodau o fod ar ben eu hunain.

Does yna ddim signal ffonau symudol ar yr ynys.

"Mae hynny'n gallu bod yn fendith oherwydd mae'n cael gwared ar y pwysau fod pobl yn disgwyl eich bod ar gael bob awr o'r dydd," meddai Mrs Scharer.

"Mae'n gyfle gwych i deulu sy'n mwynhau bod yng nghwmni ei gilydd ac sydd am gael antur."