Â鶹ԼÅÄ

Ai rhain yw'r swyddi gorau yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi'n deffro bob bore Llun ac yn diawlio wythnos arall yn eich swydd?

Mae'r borfa wastad yn lasach dros y bryn medden nhw, ond weithiau chi'n clywed am ambell i swydd sydd yn ennyn cenfigen pur!

Mae Cymru Fyw wedi llwyddo i sgwrsio gydag ambell un sy'n gwneud rhai o'r swyddi hynny i weld os yw eu bywydau'n fêl i gyd.

Yn anffodus, yn y mwyafrif o achosion, mae'n edrych fel ei fod e!

Disgrifiad o’r llun,

Mike Melrose yn dal un o gynhwysion cudd un o'i ddiodydd

Enw: Mike Melrose. Swydd: Blaswr wisgi

Rwy' 'di gwneud pob math o swyddi yn fy amser, o brynu a gwerthu ceir i astudio cerdd yn y coleg, a gweithio mewn archfarchnad. Ond ddechreuais i yma yn Dà Mhìle yn Llandysul yn yr adran farchnata.

Dechreuais edrych ar ôl y still ambell ddiwrnod, a mynd o fan 'ny i gael hyfforddiant swyddogol yn yr Alban gyda'r Institute of Distilling and Brewing, cyn dod nôl i fod yn brif ddistyllwr yma.

Roedd fy nhad yn hoff iawn o fragu ei gwrw ei hun, ac yn gwneud lot yn y garej ar waelod yr ardd wedi iddo ymddeol, felly mae rhywbeth yn y gwaed mae'n rhaid.

Beth yn union yw'r swydd?

Mae'n fusnes bach teuluol, felly er taw teitl fy swydd yw head distiller, rwy'n gwneud llawer mwy. Rwy'n gorfod paratoi a chreu'r wash, cymysgedd o farlys wedi ei fragu â dŵr, sydd wedyn yn cael ei ddistyllu i greu'r gwirod.

Ffynhonnell y llun, Da Mhile
Disgrifiad o’r llun,

Unig anfantais y swydd meddai Mike ydy fod gan y ddistyllfa botensial i ffrwydro "felly rhaid i chi'n aros gyda fe tan iddo orffen..."

Rwy'n blasu drwy'r amser pan yn distyllu, ac yn aml rhaid i mi flasu'n syth o'r still. Mae'n llawer ysgafnach na'r wisgi terfynol, ac wrth gwrs heb lawer o flas na dim lliw.

Os chi'n rhoi bach ar eich bys, mae'n ymdoddi'n syth, felly mewn ffordd chi'n blasu'r vapours.

Pa mor aml 'dych chi'n creu wisgi?

Rwy'n distyllu o leiaf pedair gwaith yr wythnos ac o hynny i gyd, ni'n cael jest dros un casgen o wisgi.

Ni hefyd yn cynhyrchu gin, achos does dim rhaid i hwnnw orwedd.

Chi'n distyllu cymysgedd wedi'i selio ar sugar beet ac yn ei ddistyllu eto wedyn gyda sbeis neu aeron i roi blas. Wedyn chi'n ei roi mewn potel a mae'n barod i'w werthu.

Felly nid dim ond wisgi rwy'n gorfod blasu!

Disgrifiad o’r llun,

Siân, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn ar ôl rhedeg yn ddi-stop lan Mynydd Enlli

Enw: Siân Stacey. Swydd: Rheolwraig Ynys Enlli

Rwy'n dod yn wreiddiol o Lansteffan yn Sir Gaerfyrddin, ond ers i mi fod yn wyth mlwydd oed, mae'r teulu wedi bod yn dod i Enlli bob blwyddyn.

Beth yw'r atyniad?

Yn lle mynd i rhywle exotic neu Disneyland, roedd fi a brawd fi jest eisiau dod i Enlli pob gwyliau haf. Dyna sut ddechreuodd fy nghariad tuag at y lle, ac mae pawb sy'n dod i Enlli'n gwybod fod ti'n teimlo rhyw fath o hiraeth yr eiliad 'dach chi'n mynd nôl ar y cwch.

Cadw cysylltiad â'r Ynys?

Wrth i mi ddod yn hŷn, dechreuais i wirfoddoli a gweithio mewn sawl lle o gwmpas yr Ynys. Yma wnes i gwrdd â 'nghariad, gan fod e'n byw yma ar y pryd, ond roeddwn i wedi setlo i fyw yng Nghaerdydd, ac yn gweithio i elusen fan 'ny.

Penderfyniad hawdd?

Pan welais i'r swydd 'ma'n cael ei hysbysebu, o'n i'n gwybod bod rhaid i mi geisio amdani, roedd hi'n amser symud ymlaen. Rwy'n teimlo'n hynod ffodus o fod wedi cael y swydd, gan fod llawer iawn wedi trio amdani.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Siân Stacey

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Siân Stacey

Newid byd?

Dwi wrth fy modd yn byw yma. Mae'n waith caled iawn a dwi wedi gorfod dysgu llwyth o sgiliau newydd. O sicrhau bod y dŵr yn y ffynnon yn ffit i bawb yfed, i gario olew i'r Rayburn mewn jariau o'r cwch.

Yn wir, dwi newydd fod yn trwsio'r panel solar sy'n rhedeg y ffôn, neu fydden ni ddim yn medru cael fy nghyfweld heddiw.

Beth sydd mor arbennig?

Fi wedi byw mewn dinasoedd a wedi byw yma, a mae'n well 'da fi fod yma. Pan dwi'n sbio allan dwi'n gweld y môr, a mae'r môr drwy'r amser yn newid. Mae rhywbeth ambiti gweithio gyda'ch dwylo, mae'n teimlo bod ni ynglwm â'r tir.

Ma' boddhad mawr mewn gorffen gwaith, a teimlo llosg y gwynt ar dy fochau... does dim teimlad gwell. Fi'n teimlo fel rhan o hanes yr Ynys.

Ffynhonnell y llun, Luned Emyr

Enw: Lowri Haf Cooke. Swydd: Adolygydd bwyd

Dechreuodd y cyfan o ganlyniad i raglen radio wnes i'n 2010 pan yn gweithio i Radio Cymru, sef Diwrnod yn y Ddinas.

Rhyw fath o soundscape o Gaerdydd wnaeth ysgogi'r cyhoeddwr Elinor Wyn Reynolds i gysylltu â mi yn gofyn os fyddwn i'n fodlon ysgrifennu llyfr, Canllaw Bach Caerdydd.

Wrth gwrs roeddwn wrth fy modd ond y cwestiwn cyntaf aeth drwy mhen oedd sut yn y byd wyt ti'n mynd i 'sgrifennu canllaw cyfoes o Gaerdydd?

Y cam cyntaf?

Yn naturiol wnes i ddechrau drwy ddarllen lot am hanes a darllen llyfrau, nofelau. Ond hefyd rhaid i ti ddechrau wrth dy draed a wnes i ofyn i'm hun, 'beth yw Nghaerdydd i?'

Oherwydd bod bwyd mor bwysig i ni fel teulu, a'r profiad o deithio tramor a dod yn gyfarwydd â chynefin a chymdeithas drwy'i gaffis, ei dafarndai, ei fwytai a'i fariau, cam digon naturiol oedd hi i gynnwys sylw i lefydd bwyta ac yfed y ddinas.

Cyngor i eraill?

Os chi'n anghyfforddus yn eich sefyllfa bresennol yn y gwaith, canolbwyntiwch ar yr hyn sydd o ddiddordeb i chi a'r hyn chi'n angerddol amdano.

Meddyliwch am ffordd o'i ddatblygu i fod yn yrfa a chymrwch y cam. Dyna wnes i, a dwi byth wedi difaru.

Ond wedi dweud hynny, mae'n waith, ac yn waith caled. Ma' 'da fi reol. Rwy'n rhedeg pum cilometr am bob tÅ· bwyta neu gaffi rwy'n adolygu. Mae'n helpu i gadw fi'n heini yn feddyliol a chorfforol.

Cyfrinach y swydd?

Pan chi'n adolygu tÅ· bwyta neu gaffi, chi ddim yn adolygu'r bwyd yn unig. Mae 'na haenau diwylliannol, economaidd, hanesyddol sydd yn rhan o hanes y tÅ· bwyta sydd yn esgor ar y cynhwysion a'r fwydlen.

Felly beth sydd gyda chi ym mhob tŷ bwyta yw nofel ar blât. Chi'n gorfod holi a gofyn y cwestiynau anodd, a weithiau beirniadu, ond dyna fydd thema'r nofel a'm swydd i yw ei adlewyrchu yn y ffordd gorau posib.