Cydnabod Plaid Brexit fel grŵp swyddogol yn y Cynulliad

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Nigel Farage ymweld ag aelodau'r grŵp newydd fore Mercher diwethaf

Mae Plaid Brexit wedi cael eu cydnabod fel grŵp swyddogol yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd y Llywydd wrth arweinydd y grŵp, Mark Reckless bod rheolau'r Cynulliad yn caniatáu hynny.

Roedd Mr Reckless yn falch fod y penderfyniad wedi cael ei wneud, ond dywedodd ei fod yn synnu fod y broses wedi cymryd mor hir.

Mae hyn yn golygu fod gan y grŵp o bedwar sy'n gyn-aelodau cynulliad UKIP y modd i gyflogi mwy o staff.

Mae'r Cynulliad wedi cael cais am sylw.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Plaid Brexit eu bod wedi gwneud cais i ffurfio grŵp gwleidyddol newydd yng Nghymru.

Fe gafodd y pedwar aelod - Mark Reckless, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands - eu cyfarch gan yr arweinydd, Nigel Farage y tu allan i adeilad y Senedd.

Mewn llythyr at Lywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, dywedodd y pedwar eu bod am i Mr Reckless arwain y grŵp, gyda Caroline Jones fel trefnydd busnes a David Rowlands yn parhau fel comisiynydd.

Dywedodd Mr Farage bod hyn yn arwydd o "gefnogwyr yr ymgyrch i adael yr UE i gyd yn dod at ei gilydd unwaith eto".

Ond roedd yn rhaid i'r pedwar AC sydd wedi ymuno â Phlaid Brexit brofi eu haelodaeth cyn cael yr hawl i ffurfio grŵp swyddogol yn y Senedd.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter