Â鶹ԼÅÄ

Llywydd yn gofyn i ACau Brexit Party brofi aelodaeth

  • Cyhoeddwyd
FaGill, Reckless, Farage, Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nigel Farage ymweld ag aelodau'r grŵp newydd fore Mercher

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru ar ddeall y bydd yn rhaid i'r pedwar Aelod Cynulliad sydd wedi ymuno â'r Brexit Party brofi eu haelodaeth cyn cael yr hawl i ffurfio grŵp swyddogol yn y Senedd.

Bydd y grŵp newydd yn cael ei harwain gan Mark Reckless os bydd eu cais i ffurfio grŵp yn cael ei dderbyn gan y Llywydd.

Ond mae Elin Jones wedi gofyn iddynt ddangos tystiolaeth i gefnogi eu bod nhw wedi ymuno â phlaid Nigel Farage, ac wedi gadael unrhyw bleidiau eraill.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru hefyd yn deall bod ACau yn ceisio newid rheolau'r Cynulliad er mwyn rhwystro'r Brexit Party rhag ffurfio grŵp.

Mewn llythyr sydd wedi dod i law Newyddion 9, mae'r Llywydd yn dweud: "Gan ystyried bod y Brexit Party yn blaid newydd yn y Cynulliad, mi fydda i yn ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol i gadarnhau statws y blaid fel un gofrestredig."

Hefyd mae disgwyl y bydd o leiaf chwech AC o wahanol bleidiau yn gofyn i bwyllgor busnes y Cynulliad newid y rheolau ynglŷn â symud rhwng pleidiau gwahanol.

Byddai'r rheol newydd yn golygu na fyddai AC yn gallu symud i blaid arall sydd heb gynrychiolaeth flaenorol o fewn y Cynulliad.

Pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo gan y pwyllgor yna bydd ACau yn cynnal pleidlais ar y mater.

Byddai angen i ddau draean o'r holl ACau i ochri gyda'r newid er mwyn ei wneud yn swyddogol.

Beth yw grŵp yn y Cynulliad?

  • Yn gyffredinol mae ACau yn aelodau o grŵp y blaid y maen nhw yn ei chynrychioli;

  • Mae cael grŵp yn golygu bod hawl i siarad am gyfnodau hirach yn y siambr yn ogystal â derbyn mwy o gyllideb i gyflogi staff;

  • Mae'n rhaid cael o leiaf tri AC er mwyn ffurfio grŵp yn y Cynulliad;

  • Pedwar grŵp sydd yn y Cynulliad ar hyn o bryd - Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP.

Yn ôl un ffynhonnell, mae'r aelodau sydd yn gobeithio ffurfio grŵp newydd wedi "gyrru ceffyl a chart drwy'r system etholiadol".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit, Jeremy Miles wrth raglen y Post Cyntaf bod trafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn gweld os oes digon o gefnogaeth i newid trefn rheolau sefydlog y Cynulliad.

"Dydw i ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu cefnogi fel grŵp yn y Senedd, ac rydyn ni angen trafodaethau trawsbleidiol i sicrhau bod yno gonsensws ar y mater," meddai.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Llywydd i "wneud y peth iawn", tra bod llefarydd ar ran y blaid Lafur yn dweud nad oes gan y grŵp newydd "unrhyw fandad democrataidd yng Nghymru".