Â鶹ԼÅÄ

Angen cynllun clir i daclo aflonyddu merched ar y stryd

  • Cyhoeddwyd
Merch ar strydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod eu strategaeth yn delio â "phob math o gam-drin"

Mae elusen Charity Plan International UK wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio bod â "chynllun clir" i ddelio â phobl sy'n aflonyddu ar ferched yn gyhoeddus.

Dywedodd Trin, 18, ei bod wedi cael ei dilyn gan ddynion "nifer o weithiau" - unwaith gan ddyn oedd yn ymddangos yn feddw a wnaeth sylwadau am y ffordd yr oedd hi'n edrych.

Roedd hi wedi'i "pharlysu gan ofn", meddai, a doedd y teithwyr eraill ddim yn ei helpu.

"Doeddwn i ddim am ei wneud yn flin neu ddweud wrtho fynd i ffwrdd ond roeddwn yn poeni beth arall allai ddigwydd ac y gallai'r sefyllfa waethygu," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu strategaeth yn delio â "phob math o gam-drin".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhuddo o beidio gwneud digon i fynd i'r afael â'r broblem

Dywed Trin bod ei ffrindiau wedi cael profiadau tebyg a'i bod yn siomedig nad yw "pobl yn 2019 yn gwybod sut i barchu pobl a merched ifanc".

"Os yw hyn yn digwydd i fi a'm ffrindiau - yna'n sicr mae e'n digwydd i bobl eraill," meddai.

"Mae'r cyfan bron yn rhan hanfodol o dyfu lan ac mae'n gadael blas cas yn y geg."

'Ofnadwy'

Mae Plan International UK wedi trefnu deiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnwys aflonyddu ar y stryd yn ei strategaeth trais yn erbyn merched.

Dywedodd Gwendolyn Sterk, sy'n gweithredu ar ran yr elusen yng Nghymru, ei bod yn dymuno i'r llywodraeth weithio gydag awdurdodau lleol a'r heddlu er mwyn delio â'r mater.

Mae hi hefyd wedi dweud bod angen gwell ddealltwriaeth o'r mater.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gofyn am weithredu pellach

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod o'r farn bod aflonyddu eisoes yn cael sylw yn eu a bod y strategaeth yn cynnwys aflonyddu'n rhywiol.

Ychwanegodd llefarydd er nad oedd y polisi yn delio ag aflonyddu ar y stryd yn benodol ei fod yn anelu "i daclo pob math o gam-drin".

Dywedodd y Prif Chwip Jane Hutt ei bod yn "ofnadwy" fod merched ifanc yn profi "y lefel annerbyniol yma o drais yn gyhoeddus".

Ychwanegodd bod y llywodraeth am sicrhau fod aflonyddu stryd yn "rhan amlwg" o'r strategaeth.

Ond mae Plan International UK yn dweud bod ffocws presennol y llywodraeth ar "daclo cam-drin yn y cartref yn hytrach na phob ffurf o drais yn erbyn merched".

Mae 1,000 wedi llofnodi deiseb Plan International UK.