Â鶹ԼÅÄ

'Angen i'r gyfraith ddal i fyny' ar stelcian ac aflonyddu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe ddioddefodd Sara Manchipp stelcian ar-lein am gyfnod o wyth mis

Mae angen i heddluoedd a Gwasanaeth Erlyn y Goron gael mwy o hyfforddiant i fynd i'r afael â stelcian, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder.

Mae Liz Saville Roberts hefyd yn dweud bod angen i'r gyfraith newid er mwyn mynd i'r afael â throseddau sy'n cael eu cyflawni ar-lein.

Does dim cymorth arbenigol ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sydd wedi cael eu stelcio, er bod nifer y dioddefwyr yn cynyddu.

Dywedodd pob llu yng Nghymru bod eu staff wedi derbyn hyfforddiant i adnabod arwyddion stelcio'n well.

'Bygwth fy mywyd i'

Fe gafodd Sara Manchipp, cyn-Miss Cymru sy'n 29, ei stelcio ar-lein am wyth mis.

Bu'n rhaid iddi gau ei chyfrif Facebook a'i ailagor dan enw arall. Ond fe lwyddodd ei stelciwr i'w darganfod hi eto.

Fe dderbyniodd negeseuon afiach a phersonol ganddo yn bygwth ei lladd a'i threisio. Dechreuodd Sara amau pawb.

"Pan on ni'n cerdded lawr y stryd, os oedd rhywun yn edrych arnai - fel dyn - o'n i jyst yn meddwl yn syth - "Ti yw e", o'n i'n cwestiynu pawb, pawb oedd wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd, pobl yn y stryd, pobl yn y gwaith, o'n i ddim ishe bod gartref ar ben fy hun yn y nos.

"O'dd e'n teimlo bod e'n bygwth fy mywyd i, achos natur y negeseuon - oedden nhw'n dweud oedd e'n mynd i fy lladd i, beth odd e'n mynd i neud i fy nghorff i - pethe fel'na.

"Achos odde'n nhw'n really really violent - o'n i'n meddwl bo' rhywbeth yn mynd i ddigwydd."

"O'dd yr heddlu hefyd wedi dweud wrthai bo' rhaid i fi symud mas o'r tÅ· am bach o amser...

"O'n nhw'n hala rhywun mewn bob bore i checio'r perimeters i weld os oedd rhywun yna, naethon nhw roi panic alarm yn y tÅ·, naethon nhw roi rape alarm i fi pan on i'n cerdded o amgylch y stryd."

Y llynedd cafodd y dyn oedd yn stelcio Sara ei garcharu am ychydig dros flwyddyn. Roedd wedi bod yn gwneud yr un peth i 10 o fenywod eraill.

Er ei fod dan glo, mae Sara'n poeni am pan y bydd yn cael ei ryddhau: "Dwi'n meddwl amdano bob wythnos, bron pob dydd really achos fi'n becso, achos bod e wedi cael ei ddala nawr a fydd e moyn vengeance a cario mas beth oedd e'n dweud oedd e'n mynd i 'neud.

"O'dd e'n neud i fi deimlo yn fy mhen i bod dim ffordd allan da fi, bod e wastad yn gwylio, mae'n gwybod popeth am fy mywyd i a hyd yn oed bod e dal yn y carchar, mae e dal yn gwbod y stwff 'na amdanai, dal yn gwybod lle fi'n byw, ble fi'n gweithio, pethe am fy nheulu i."

Yn ôl dadansoddiad gan Â鶹ԼÅÄ Cymru o Arolwg Troseddu Prydain, yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2018, cafodd 81,000 o bobl eu stelcio neu eu haflonyddu.

Yn yr un cyfnod, 19,000 o droseddau stelcio ac aflonyddu gafodd eu cofnodi gan heddluoedd Cymru.

Mae'r lluoedd yn cydnabod nad yw stelcio'n cael ei adrodd na'i gofnodi yn aml.

Yn Ebrill 2018, fe gafodd newidiadau eu cyflwyno gan y Swyddfa Gartref i sicrhau bod achosion yn cael eu cofnodi'n well.

Disgrifiad,

Mae diffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb stelcian meddai Dr Lowri Cunnington Wynn

Diffyg dealltwrieth o'r pwnc sy'n gyfrifol am dangofnodi stelcian, meddai'r darlithydd Troseddeg, Dr Lowri Cunnington Wynn.

"Mae pobl yn credu, neu'r heddlu'n credu, fod pobl yn gwneud gormod o ffys, bod o'n rhywun sy'n dangos cariad, neu rhywfath o affection a bod o ddim really yn cael ei gymryd o ddifrif.

"Felly diffyg hyfforddiant yw un o'r pethau yna, diffyg gwybodaeth am y pwnc hefyd a'r dioddefwyr eu hunain ddim yn cofnodi achosion o stelcio fel arfer tan y canfed achos o rhywbeth yn digwydd."

Ychwanegodd bod gwaith ymchwil yn dangos bod stelcwyr yn fwy tebygol o gael cyrhaeddiadau addysgol uwch na throseddwr arferol, ac yn fwy tebygol o fod wedi stelcio yn y gorffennol.

"Mae'r effeithiau'n gallu bod yn enfawr, maen nhw'n gallu cael effaith unigol ar y dioddefwr a hefyd ar deuluoedd y dioddefwyr..."

Er bod heddluoedd Cymru wedi derbyn hyfforddiant i adnabod arwyddion stelcian mae'r AS, Liz Saville Roberts yn mynnu bod angen gwneud mwy.

"Gyda'r hyn sydd ar-lein - os ydy'r dioddefwr wedi cadw'r dystiolaeth - yn screen snap neu beth bynnag, mae'n bosib bod o'n haws i hel tystiolaeth ar ei gyfer o wedyn wrth gwrs, mae'r cwestiwn o ba mor ddifrifol mae'r swyddogion heddlu yn ei gymryd o," dywedodd.

"Fel arall mae'r dystiolaeth mae'r dioddefwr yn rhoi ymlaen o ran stelcian sydd ddim ar-lein - mae angen yr amser i siarad gyda dioddefwyr, mae angen amser i gofnodi ac mae hwnna hefyd yn aml iawn angen hyfforddiant am sut i ddeall goblygiadau a difrifoldeb y drosedd i'r unigolyn sy'n ei ddioddef.

"Yn yr oes sydd ohoni, lle mae na gymaint mwy o ddefnyddio dulliau digidol o gysylltu, cyfryngau cymdeithasol, a'r holl droseddu sy'n dilyn hynny, 'da ni angen i'r gyfraith ddal i fyny yn ogystal."

Troseddau 'heriol iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron bod stelcian ac aflonyddu yn droseddau "heriol iawn" gan eu bod yn ymwneud â phobl sy'n nabod ei gilydd.

Ychwanegodd bod gwella'r ymateb i'r troseddau yn flaenoriaeth, yn ogystal â "sicrhau ein bod yn cofnodi, adnabod, ymchwilio ac erlyn yr achosion yma'n gywir".

Dywedodd hefyd bod y strategaeth yn gweithio, gyda chynnydd o 68.5% yn yr achosion gafodd eu herlyn llynedd.