Y Brexit Party yn ffurfio grŵp newydd yn y Cynulliad

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Nigel Farage ymweld ag aelodau'r grŵp newydd fore Mercher

Mae arweinydd y Brexit Party wedi cyhoeddi eu bod wedi gwneud cais i ffurfio grŵp gwleidyddol newydd yn y Cynulliad.

Fe gafodd y pedwar aelod, Mark Reckless, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands, eu cyfarch gan Nigel Farage y tu allan i adeilad y Senedd fore Mercher.

Mewn llythyr at Lywydd y Cynulliad mae'r pedwar yn dweud eu bod am i Mr Reckless arwain y grŵp, gyda Caroline Jones fel trefnydd busnes a David Rowlands yn parhau fel comisiynydd.

Dywedodd Mr Farage bod hyn yn arwydd o "gefnogwyr yr ymgyrch i adael yr UE i gyd yn dod at ei gilydd unwaith eto".

Mae'r Llywydd yn ystyried y cais.

Bydd Mr Farage yn cymryd rhan mewn rali ym Merthyr Tudful nos Fercher fel rhan o ymgyrch y Brexit Party yn yr etholiad Ewropeaidd.

Roedd sibrydion y byddai grŵp o'r fath yn cael ei ffurfio ar ôl i'r cyn-AC UKIP, Mark Reckless, gyhoeddi ei fod yn gadael grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Mr Reckless adael UKIP er mwyn ymuno â grŵp y Ceidwadwyr ym mis Ebrill 2017

Wrth siarad y tu allan i'r Senedd, dywedodd Mr Reckless bod "democratiaeth yn cael ei rwystro".

"Mae Brexit yn cael ei rwystro, ac o hyn ymlaen bydd grŵp y Brexit Party yn y Cynulliad yn helpu i gefnogi Nigel Farage a'i blaid gyda phopeth y maen nhw'n ei wneud i amddiffyn ein democratiaeth a sicrhau ein bod ni'n gadael yr UE."

Beth yw grŵp yn y Cynulliad?

  • Yn gyffredinol mae ACau yn aelodau o grŵp y blaid y maen nhw yn ei gynrychioli.
  • Mae cael grŵp yn golygu bod hawl i siarad am gyfnodau hirach yn y siambr yn ogystal â derbyn mwy o gyllideb i gyflogi staff.
  • Mae'n rhaid cael o leiaf tri AC er mwyn ffurfio grŵp yn y Cynulliad.
  • Pedwar grŵp sydd yn y Cynulliad ar hyn o bryd - Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP.

Er ei fod yn aelod o'r grŵp yn y Cynulliad, doedd Mr Reckless ddim wedi bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol ers iddo adael yn 2014.

Roedd Mr Rowlands yn un o'r tri AC oedd yn rhan o grŵp UKIP yn y Cynulliad, ac mae ei ymadawiad o'r sefydliad hwnnw yn golygu mai dyma fydd diwedd grŵp UKIP yn y Cynulliad.

Dywedodd Mr Rowlands ei fod yn benderfyniad "anodd iawn" i adael UKIP, ond ei fod yn teimlo'n "anfodlon" gyda'r hyn oedd yn digwydd gyda'r blaid ers tro.

Wrth ymateb i'r ymadawiad, dywedodd aelod o UKIP Cymru, Gareth Bennett AC, bod gweld Mr Rowlands yn gadael yn "siomedig".

Mae Mandy Jones a Caroline Jones yn gyn-aelodau o UKIP ond yn bellach yn sefyll fel aelodau annibynnol.

'Ystyried y mater'

Fe wnaeth y Llywydd gadarnhau ei bod wedi derbyn y cais yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.

"Dymunaf hysbysu'r Cynulliad fy mod i wedi derbyn llythyr gan bedwar o aelodau yn fy hysbysu o'u dymuniad i ffurfio grŵp yn unol â Rheolau Sefydlog 1.3," meddai Elin Jones.

"Rwyf yn ystyried y mater yn unol â fy nyletswyddau o dan y Rheolau Sefydlog. Mi fyddaf yn hysbysu'r Cynulliad o fy nghasgliadau yn y man."