Â鶹ԼÅÄ

Arweinydd Plaid Brexit am weld 'neges gref'

  • Cyhoeddwyd
Nigel Farage and Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nigel Farage a Nathan Gill yng Nghaerffili ddydd Mawrth

Mae prif bleidiau gwleidyddol y DU wedi "penderfynu yn fwriadol i fynd yn erbyn" canlyniad refferendwm yr UE yn 2016, yn ôl Arweinydd Plaid Brexit, Nigel Farage.

Mae Mr Farage wedi bod yn lansio ymgyrch Etholiad Senedd Ewrop y blaid yng Nghymru yng Nghaerffili.

Dywedodd bod y ffaith bod pob un o ymgeiswyr Llafur yng Nghymru o blaid refferendwm arall yn dangos y "bwlch anferth rhwng pobl a gwleidyddion".

Mae prif ymgeisydd Plaid Brexit yng Nghymru, Nathan Gill, wedi galw ar gefnogwyr i ddefnyddio'u pleidlais i yrru "neges gref" i San Steffan.

Brexit 'heb ei gyflawni'

Fe wnaeth Plaid Brexit yn lansio eu hymgyrch yng Nghymru ddydd Mawrth gydag ymweliadau gan Mr Farage a'r cyn-AS Ceidwadol Ann Widdecombe.

Mae'r blaid yn un o wyth sy'n sefyll yn Etholiadau Seneddol Ewrop yng Nghymru. Bydd y pleidleisio'n digwydd ar 23 Mai.

Cafodd Plaid Brexit ei sefydlu gan Mr Farage er mwyn ymgyrchu i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn syth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nathan Gill bod "pobl wedi cael eu bradychu"

Dywedodd Mr Farage ei fod yn ne Cymru cyn y refferendwm yn 2016 ac wedi cael teimlad "cryf" y byddai llawer o dde Cymru yn pleidleisio i adael.

"Dyma fi tair blynedd yn ddiweddarach, a dydw i ddim yn ôl fel ymwelydd ond gan nad ydy hynny wedi ei gyflawni."

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod y ddau brif blaid wedi penderfynu yn fwriadol i fynd yn erbyn beth wnaeth pobl y DU bleidleisio drosto yn y refferendwm yna."

'Pobl yn flin'

Dywedodd Mr Gill, gafodd ei ethol fel ASE dros UKIP yn 2014, bod "pobl yn flin".

"Mae pobl angen gwybod beth fedran nhw wneud. ac ry'n ni'n dweud wrthyn nhw 'fe allwch chi gael pleidlais arall'.

"Gallwch fynd i'r blwch pleidleisio ac ategu'r neges a roddoch yn 2016 eich bod am adael yr UE."

Daeth UKIP yn ail agos i'r Blaid Lafur yn Etholiadau Ewrop diwethaf Cymru yn 2014.

Fe wnaeth Mr Gill wedyn arwain UKIP yn Etholiadau'r Cynulliad, ond yn dilyn sawl ffrae fe adawodd y blaid yn y Cynulliad cyn ymddiswyddo'n llwyr. Gadawodd UKIP y llynedd.

"Does gennym ddim o'r problemau yn y gorffennol a gafodd UKIP," meddai Mr Gill.