Â鶹ԼÅÄ

Davies: 'Amser i May fynd' wedi 'methiant' Brexit

  • Cyhoeddwyd
David Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Davies bod Theresa May wedi "cael ei thanseilio gan ei chabinet ei hun"

Mae'r "amser wedi dod i Theresa May fynd" gan ei bod hi "wedi methu", yn ôl Ceidwadwr o Gymru sy'n dweud bod ymestyn cyfnod Brexit yn "warthus".

Dywedodd David Davies, AS Mynwy, ei bod hi'n "fethiant llwyr" bod y Prif Weinidog wedi gorfod mynd yn ôl i ofyn am estyniad i Erthygl 50 er mwyn osgoi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ddydd Gwener.

Mae arweinwyr gwledydd yr UE wedi caniatáu estyniad o chwe mis i broses Brexit yn dilyn cynhadledd ym Mrwsel ddydd Mercher.

Dywedodd Mrs May, oedd yn gobeithio am estyniad byrrach, y byddai'n ceisio gadael yr UE cyn gynted â phosib.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi croesawu'r estyniad, gan ddweud ei fod yn cynnig "cyfle arall i DÅ·'r Cyffredin gyrraedd cytundeb".

Fodd bynnag, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, refferendwm arall yw'r "unig opsiwn realistig" i Theresa May erbyn hyn.

'Angen dangos arweinyddiaeth'

Pan ofynnwyd i Mr Davies pwy fyddai'n ffafrio fel arweinydd newydd, dywedodd y byddai'n cefnogi'r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid.

"Dwi'n meddwl bod yr amser nawr wedi dod - mae'n rhaid i ni gael rhywun arall fel pennaeth y llywodraeth," meddai wrth raglen Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Iau.

"Mae angen aelod arall o'r cabinet, sy'n barod i ddangos arweinyddiaeth.

"Os fyddai'n rhaid i mi ddewis nawr byddwn i'n dweud Sajid Javid, ond mae 'na ychydig o ymgeiswyr o'r canol sy'n dderbyniol i ddwy ochr y blaid.

"Dydw i ddim yn erbyn pobl fel Jeremy Hunt neu Michael Gove chwaith.

"Ond dydw i ddim yn meddwl y dylai Theresa May gario 'mlaen nawr - mae'r amser wedi dod iddi fynd. Mae hi wedi methu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theresa May wedi dweud ei bod eisiau gadael yr UE cyn gynted â phosib

Wedi'r cytundeb, 31 Hydref ydy'r dyddiad hwyraf i'r DU adael yr UE, ond bydd modd gadael yn gynt os fydd TÅ·'r Cyffredin dod i gonsensws.

Mae hefyd yn golygu bod rhaid i'r DU gynnal etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop ym mis Mai.

Ychwanegodd Mr Davies bod Mrs May wedi "cael ei thanseilio gan ei chabinet ei hun".

"Does dim bai arni hi - ar y cabinet mae'r bai - ond mae'n rhaid i ni gael rhywun arall," meddai.

"Gwaetha'r modd, mae'r Prif Weinidog wedi dod yn ôl gyda chytundeb sydd ddim yn dderbyniol i'r senedd.

"Fe ddywedodd hi ein bod yn hollol barod i adael heb gytundeb, ond ar yr un pryd mae hi wedi cael ei thanseilio gan aelodau ei chabinet ei hun."

'Cyfle inni gael ein gwynt atom'

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, drydar wedi'r cyhoeddiad: "Mae hwn yn gyfle inni gael ein gwynt atom ac yn gyfle arall i DÅ·'r Cyffredin sicrhau cytundeb - ar y math o Brexit rydyn ni wedi galw amdano ers tro, ac a fydd, gobeithio, yn arwain at lai o niwed i'n heconomi, neu at bleidlais newydd i'r bobl; neu hyd yn oed at y ddau."

"Mae angen mwy o sicrwydd ar ein busnesau a'n dinasyddion cyn gynted â phosibl", meddai.

"Allwn ni ddim gwastraffu mwy o amser ar anwadalwch a llinellau coch caeth."

Fodd bynnag, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts mai refferendwm arall yw'r unig ateb.

"Rydym wedi galw'n gyson am estyniad hirach am reswm - er mwyn sicrhau trafodaeth ddemocrataidd am ein dyfodol yn Ewrop, wedi'i ddilyn gan Bleidlais i'r Bobl ag Aros ar y papur pleidleisio," meddai.

"Dyna'r unig opsiwn realistig i'r Prif Weinidog. Mae ei chynlluniau eraill wedi methu, ac mae'n rhaid iddi fod yn barod i roi'r cwestiwn yn ôl i'r bobl."