Ruth Jones yn cadw sedd Gorllewin Casnewydd i Lafur

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ruth Jones fydd yr Aelod Seneddol newydd dros etholaeth Gorllewin Casnewydd

Mae Ruth Jones wedi cadw sedd Gorllewin Casnewydd yn San Steffan i'r Blaid Lafur yn yr isetholiad gafodd ei alw yn dilyn marwolaeth Paul Flynn.

Roedd Ms Jones yn fuddugol gyda 9,308 o bleidleisiau - mwyafrif o 1,951 a 39.6% o'r bleidlais.

Matthew Evans o'r Blaid Geidwadol oedd yn ail, gyda Neil Hamilton o UKIP yn drydydd.

37.1% o'r rheiny oedd yn gymwys - 23,615 o bobl - wnaeth daro pleidlais yn yr isetholiad, o'i gymharu â 67.5% yn 2017.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd y cyfrif yn digwydd yn Felodrom Geraint Thomas yn y ddinas

Roedd buddugoliaeth Ms Jones yn llai na'r mwyafrif (5,658) a chanran y bleidlais (52.3%) oedd gan Mr Flynn yn etholiad cyffredinol 2017.

Roedd Mr Flynn, fu farw ym mis Chwefror, wedi bod yn Aelod Seneddol dros yr etholaeth ers 1987 ac fe lwyddodd i amddiffyn ei sedd am saith etholiad yn olynol.

'Gwneud ein gorau i helpu eraill'

Dywedodd Ms Jones, 56: "Mae'r isetholiad yma wedi cael ei gynnal oherwydd marwolaeth drist ein ffrind, Paul Flynn.

"Mae nifer o deyrngedau wedi'u rhoi iddo dros yr wythnosau diwethaf ond fe wnaeth un sefyll allan i mi - 'Roedd pawb yn adnabod rhywun gafodd eu helpu gan Paul Flynn'.

"Mae'r geiriau yma wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi trwy'r ymgyrch. Dyna pam dy'n ni yma - i wneud ein gorau i helpu eraill.

Ychwanegodd y byddai'n "gwneud yr hyn wnes i addo - sefyll i fyny dros bobl, swyddi ac economi Gorllewin Casnewydd".

Cafodd Ms Jones ei geni a'i magu yn yr etholaeth, a hi oedd ymgeisydd y Blaid Lafur ym Mynwy yn etholiadau cyffredinol 2015 a 2017.

Roedd 11 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr isetholiad.

Ymweliad Jeremy Corbyn

Daeth arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn i Gasnewydd fore Gwener a dywedodd fod y fuddugoliaeth yn un "yn erbyn llywodraeth sy'n gwneud cymaint o bobl yn llymach".

"Dyna pam gafodd y blaid Lafur ei sefydlu," meddai, "a dyna beth yr oedd y gefnogaeth a gawsom ddoe yn ei ddangos.

"Fe wnaeth pobl uno ym mhenderfyniad yr agenda gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y mae'r blaid Lafur yn ei chynnig."

Ffynhonnell y llun, Leon Neal

Disgrifiad o'r llun, Bu Paul Flynn yn cynrychioli'r Blaid Lafur yng Ngorllewin Casnewydd am dros 30 mlynedd

Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig

Yr hyn sy'n ddiddorol am Orllewin Casnewydd yw pa mor anniddorol yw'r canlyniad.

Os y'ch chi'n ystyried y berw gwleidyddol ar hyn o bryd... does 'na ddim arwydd o gwbl bod hynny'n cael ei adlewyrchu ar lawr gwlad.

Mae'n drawiadol bod UKIP wedi dod yn drydydd, wedi cynyddu'r bleidlais rywfaint, ond does 'na ddim ryw ffrwydrad o ddicter gan gefnogwyr Brexit.

Mae'n mynd yn fwyfwy amlwg, 'dwi'n meddwl, bod y Brexitwyr efallai yn fyddin o gadfridogion a sargeant majors heb filwyr ar lawr gwlad.

Mae'r methiant i gael niferoedd mawr ar wrthdystiadau, methiant i gael deisebau tebyg i'r rhai mae cefnogwyr aros yn llwyddo i wneud, yn drawiadol iawn ac 'y ni'n gweld hynny yn yr isetholiad yma.

Y canlyniad yn llawn:

  • Ruth Jones (Llafur) - 9,308 pleidlais, 39.6% o'r cyfanswm
  • Matthew Evans (Ceidwadwyr) - 7,357, 31.3%
  • Neil Hamilton (UKIP) - 2,023, 8.6%
  • Jonathan Clark (Plaid Cymru) - 1,185, 5%
  • Ryan Jones (Democratiaid Rhyddfrydol) - 1,088, 4.6%
  • Amelia Womack (Y Blaid Werdd) - 924, 3.9%
  • June Davies (Renew) - 879, 3.7%
  • Richard Suchorzewski (Abolish the Welsh Assembly) - 205, 0.9%
  • Ian McLean (SDP) - 202, 0.9%
  • Philip Taylor (Democrats and Veterans) - 185, 0.8%
  • Hugh Nicklin (For Britain) - 159, 0.7%