Â鶹ԼÅÄ

Gorllewin Casnewydd: Y blychau pleidleisio wedi cau

  • Cyhoeddwyd
Gorllewin CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae etholaeth Gorllewin Casnewydd yn cynnwys ardaloedd i'r gorllewin o Afon Wysg

Mae trigolion etholaeth Gorllewin Casnewydd wedi bod yn pleidleisio ddydd Iau i ddewis Aelod Seneddol newydd.

Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth Paul Flynn ym mis Chwefror.

Mae 11 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr isetholiad, a bu'r pleidleisio'n digwydd rhwng 07:00 a 22:00.

Mae disgwyl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi yn ystod oriau mân fore Gwener.

Yr ymgeiswyr yn llawn ydy:

  • Jonathan Clark (Plaid Cymru);

  • June Davies (Renew);

  • Matthew Evans (Ceidwadwyr);

  • Neil Hamilton (UKIP);

  • Ruth Jones (Llafur);

  • Ryan Jones (Democratiaid Rhyddfrydol);

  • Ian McLean (SDP);

  • Hugh Nicklin (For Britain);

  • Richard Suchorzewski (Abolish the Welsh Assembly);

  • Philip Taylor (Democrats and Veterans);

  • Amelia Womack (Y Blaid Werdd).