Drakeford: 'Gweithredu sy'n cyfrif' i ddatrys Brexit

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud bod Theresa May yn "barod i wrando" yn ystod cyfarfod yn Downing Street i drafod yr anghytuno dros adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mai "gweithredu sy'n cyfrif" nawr os am osgoi Brexit heb gytundeb.

Roedd y cyfarfod, meddai Mark Drakeford, yn gyfle arall iddo amlinellu math o Brexit sy'n sicrhau perthynas economaidd agosach gyda'r UE yn y tymor hir ac yn gwarchod swyddi ar draws y DU.

Daeth sylwadau Mr Drakeford wedi i Brif Weinidog y DU gynnal cyfres o gyfarfodydd - gan gynnwys un gydag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn i geisio cael cytundeb ar y ffordd ymlaen.

Ben bore Mercher fe gyhoeddodd yr is-weinidog yn Swyddfa Cymru, Nigel Adams AS ei fod wedi gadael ei rôl yn sgil penderfyniad Mrs May i gydweithio gyda'r blaid Lafur ar Brexit.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Drakeford wedi croesawu'r cyfle diweddaraf i gyflwyno'r achos i Mrs May dros y math o Brexit mae e'n ei ffafrio

"Ers refferendwm 2016 rydym wedi gweld y Prif Weinidog yn symud, er yn rhy araf o lawer, o'i safbwynt gwreiddiol i'r hyn sydd yn [nogfen Llywodraeth Cymru] ," meddai Mr Drakeford.

"Yn ei datganiad ddoe, fe welson ni symud pellach, sydd i'w groesawu, i'r cyfeiriad hwnnw.

"Roedd cyfarfod heddiw yn gyfle arall i mi amlinellu math o Brexit sy'n sicrhau perthynas economaidd tymor hir agosach gyda'r UE yr ydym ni yn credu yw'r ffordd orau o warchod economi a swyddi'r holl DU.

"Roedd y Prif Weinidog yn ymddangos yn wirioneddol barod i wrando, ond wrth gwrs, a ninnau mor hwyr yn y broses, gweithredu sy'n cyfrif os rydym am osgoi Brexit heb gytundeb."

Disgrifiad o'r llun, Mae Theresa May wedi cael ei beirniadu'n hallt gan rai o'i chyd-Geidwadwyr am gynnal trafodaeth gyda Jeremy Corbyn

Dywedodd Mr Corbyn bod ei gyfarfod yntau gyda Mrs May wedi bod yn "ddefnyddiol ond heb ganfod ateb".

Yn ôl llefarydd ar ran Downing Street roedd Mrs May wedi "ailddatgan ei hymrwymiad i weithio gydag ASau ar draws y sbectrwm gwleidyddol a'u bod wedi cytuno bod angen cyfaddawdau i wireddu canlyniad y refferendwm".

Fydd yna ddim gyfres o bleidleisiau arall nos Lun wedi'r cyfan wedi pleidlais gyfartal yn Nhŷ'r Cyffredin nos Fercher, wnaeth olygu bod y Llefarydd John Bercow wedi defnyddio'i bleidlais fantol, yn ôl y confensiwn, i wrthwynebu'r cynnig i'w cynnal.