Â鶹ԼÅÄ

Is-weinidog Swyddfa Cymru yn ymddiswyddo dros Brexit

  • Cyhoeddwyd
Nigel AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nigel Adams mai ei fwriad bellach yw parhau i wasanaethu ei etholaeth o'r meinciau cefn

Mae is-weinidog yn Swyddfa Cymru wedi gadael ei rôl yn sgil penderfyniad Theresa May i gydweithio gyda'r blaid Lafur ar Brexit.

Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd Nigel Adams AS bod penderfyniad Mrs May a'r cabinet yn "gamgymeriad enbyd".

Bydd Mrs May yn cyfarfod Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn ddiweddarach er mwyn ceisio llunio cytundeb fyddai'n ennill mwyafrif o bleidleisiau yn NhÅ·'r Cyffredin.

Dywedodd Mr Adams: "Rwy'n anghytuno'n llwyr gyda'r dull yma ac rwyf wedi penderfynu bod rhaid i fi, er fy mod rhywfaint yn anfodlon yn gwneud hynny, ymddiswyddo."

'Dim cytundeb yn well'

Mr Adams, sy'n AS dros Selby ac Ainsty, oedd y pedwerydd gweinidog mewn blwyddyn i gael ei benodi'n is-weinidog yn Swyddfa Cymru, wedi i Mims Davies, AS Eastleigh, symud i rôl wahanol ym mis Tachwedd y llynedd.

Yn ei lythyr, dywedodd Mr Adams: "Roeddwn i a nifer o rai eraill yn cytuno gyda'ch safbwynt bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael.

"Mae'n ymddangos bellach bod chi a'ch cabinet wedi penderfynu bod cytundeb - wedi'i greu gan Farcsydd sydd erioed yn ei yrfa gwleidyddol wedi rhoi buddiannau Prydain yn gyntaf - yn well na dim cytundeb."

Ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Mr Adams ei fod yn "ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y cyfle i fod yn weinidog ers 2017" a'i fod yn bwriadu "parhau i wasanaethu pobl fy etholaeth o'r meinciau cefn".

Mewn datganiad, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, ei fod yn "siomedig" i weld Mr Adams yn gadael y llywodraeth, a'i fod yn diolch iddo am ei waith fel gweinidog.

Dywedodd AS Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies, ei fod yn "flin iawn gweld Nigel yn gadael Swyddfa Cymru".

"Roedd yn AS da iawn, ac fe fyddaf yn gweld eisiau gweithio gydag e," meddai.

Fodd bynnag, dywedodd Alun Davies, Aelod Cynulliad dros Lafur Cymru mai dyma ymddiswyddiad "rhywun and oedd neb yng Nghymru erioed wedi clywed amdano".

Fe wnaeth drydar: "Rheswm arall pam ddylid cael gwared ar Swyddfa Cymru."

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: "Gallwn ystyried colli un gweinidog o Swyddfa Cymru yn anffodus, ond mae colli pedwar mewn blwyddyn yn edrych fel petai'n ddiofal."

Ychwanegodd bod "pobl Cymru yn siŵr o gwestiynu os ydy'r diffyg cysondeb yn Swyddfa Cymru yn rhan o'r rheswm nad ydym yn cael ein hystyried gan Lywodraeth San Steffan".