麻豆约拍

Ynys M么n yn derbyn statws 'cymuned di-blastig'

  • Cyhoeddwyd
botel ddwrFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd arweinydd yr ymgyrch ei bod hi'n "falch iawn o gymuned yr ynys"

Ynys M么n yw'r sir gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn statws "cymuned di-blastig" gan elusen amgylcheddol.

Dywedodd Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth (SAS), sy'n gweithio hefo cymunedau i warchod ein traethau a bywyd morol, eu bod nhw'n cydnabod gwaith i leihau effaith plastig un defnydd ar yr amgylchedd.

Mae'r statws newydd yn dilyn ymgyrch ar yr ynys i godi ymwybyddiaeth o effaith gwastraff plastig - gyda phwyslais ar eitemau cyffredin fel poteli d诺r a gwellt.

Dywedodd Sian Sykes, arweinydd yr ymgyrch, ei bod hi'n "falch iawn o gymuned yr ynys" a'i bod yn "edrych 'mlaen i weld be arall sy'n bosib i'w gyflawni".

Mae plastigion un defnydd yn cael eu hystyried fel un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at lygredd plastig yn ein moroedd a'n hafonydd.

Er mwyn derbyn y statws 'di-blastig' roedd rhaid i Ynys M么n weithredu cynllun sydd 芒 phum prif agwedd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r gr诺p cymunedol wedi cynnal rhaglen addysgu mewn ysgolion, wedi gweithio gyda busnesau a grwpiau cymunedol eraill ac wedi llwyddo i ennill cefnogaeth y cyngor sir.

Llwyddodd yr ymgyrch i berswadio siopau a bwytai ar hyd yr ynys i wneud newidiadau bychain megis cyfnewid cyllyll a ffyrc plastig am rhai pren.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Ms Sykes badlrwyfo o amgylch Cymru yn 2018 er mwyn codi ymwybyddiaeth

Ychwanegodd Ms Sykes: "Rydw i wrth fy modd bod cymuned Ynys M么n wedi dod at ei gilydd i helpu'r ynys dderbyn y statws anhygoel yma.

"Mae'r gymuned yn teimlo mor gryf am y mater ac yn benderfynol o chwarae eu rhan wrth geisio gwneud Ynys M么n yn ynys gynaliadwy."

Mae statws newydd y gymuned yn "adlewyrchu ymrwymiad Ynys M么n i wella amgylchedd yr ynys", yn 么l Rachel Yates, swyddog SAS sy'n gyfrifol am ddynodi statws di-blastig.

"Mae hi'n gr锚t gallu gweld yr holl waith mae Ynys M么n wedi ei wneud i leihau argaeledd plastigion un tro, codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ail-ddefnyddio plastigion," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn wreiddiol ym mis Chwefror y llynedd

Roedd sicrhau cefnogaeth yr awdurdod lleol yn rhan allweddol o'r cynllun gweithredu, a chafodd cynnig Dafydd Rhys Thomas ei gefnogi yn unfrydol gan aelodau'r cyngor.

Dywedodd Mr Thomas ei fod wedi cael ei ysbrydoli i gefnogi'r ymgyrch ar 么l bod yn dyst i'r effaith mae gwastraff plastig yn ei gael ar fywyd gwyllt.

"Fe welais i forlo yn cael trafferth gyda bag plastig yn ei geg, ac ar 么l tua 10 munud fe ddiflannodd o'r golwg... yn amlwg roedd y bag plastig wedi lladd y morlo," meddai.

"Roeddwn i'n teimlo bod angen i mi wneud rhywbeth er mwyn arbed yr ynys a'r arfordir prydferth yma."

Ychwanegodd fod derbyn y statws hwn yn "gam mawr ymlaen" i Ynys M么n.

'Her i gynghorau eraill'

Yn 么l Alun Morgan Owen, swyddog cefn gwlad ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae momentwm yn hollbwysig wrth symud ymlaen.

"Mae'n ddynodiad arbennig i dd'eud y gwir a ni yw'r cyntaf drwy'r wlad. Dwi'n meddwl mai momentwm a pharhau hefo'r peth sy'n bwysig rwan... ond hefyd ein bod ni'n cynnal y cydweithio a'r bartneriaeth.

"Rwan mae'r gwaith caled yn dechrau dwi'n teimlo... bod pawb yn dod at ei gilydd ac yn cario 'mlaen efo'r statws yma... dwi'n meddwl bydd o'n her rwan i gynghorau eraill ddilyn esiampl Ynys M么n."

Er bod yr ymgyrchwyr yn dathlu derbyn y statws diweddaraf yma, maen nhw hefyd yn cydnabod mai man dechrau yw hwn a bod llawer o waith i'w wneud tan fod Ynys M么n wir yn ynys di-blastig.

Ychwanegodd Ms Sykes: "Be' sydd angen i ni 'neud nawr yw codi mwy o ymwybyddiaeth a chael mwy o bobl yn rhan o'r ymgyrch... ond gobeithio gallwn ni wneud hynny!"

Hefyd gan y 麻豆约拍