Â鶹ԼÅÄ

Brexit: Pleidlais bwysig, ond nid ystyrlon

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, HOC

Ar y diwrnod yr oedd y DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, fe fydd pleidlais bwysig arall yn NhÅ·'r Cyffredin.

Union ddwy flynedd ers i Erthygl 50 gael ei weithredu, bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y cytundeb ymadael, ond ni fydd y bleidlais yr un fath â'r ddwy bleidlais arall ar y cytundeb.

Yn Ionawr a Chwefror, bu pleidleisiau yn y senedd ar fesur oedd yn cynnwys y Cytundeb Ymadael (a gytunwyd rhwng Llywodraeth y DU a Chyngor Ewrop) a'r datganiad gwleidyddol oedd yn cyd-fynd â hwnnw.

Dim ond y cytundeb fydd yn destun pleidlais heddiw, ac nid yw'r bleidlais felly yn un ystyrlon gan na fydd yn rhoi'r cytundeb yn rhan o ddeddfau'r DU.

Gwahanu'r mesur

Drwy wahanu'r cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol, mae'r llywodraeth yn ceisio sicrhau cytundeb er mwyn sicrhau estyniad pellach i Erthygl 50.

Mae'r UE wedi cytuno i ymestyn y dyddiad ymadael i 22 Mai, ond dim ond os fydd y cytundeb yn pasio yn San Steffan.

Os fydd y bleidlais yn llwyddiannus i'r llywodraeth, fe fydd yr UE yn ymestyn y dyddiad ymadael i 22 Mai. Os na fydd yn llwyddo, bydd y dyddiad ymadael yn digwydd ar 12 Ebrill, a hynny heb gytundeb.

Er bod ASau wedi dangos eu gwrthwynebiad i adael heb gytundeb, doedd y pleidleisiau hynny ddim yn rhai ystyrlon. Felly bydd cynigion eraill yn sicr o ddilyn dros y pythefnos nesaf am hynny, a beth fydd y camau nesaf yn y broses.

Colli fu eu hanes yn y ddwy bleidlais ystyrlon. Ar 15 Ionawr, fe gollodd y llywodraeth o'r mwyafrif mwyaf erioed - 230 - cyn mynd ymlaen i golli'r ail bleidlais ar 12 Mawrth o 149 pleidlais.

Er bod y Prif Weinidog Theresa May wedi dweud y bydd hi'n gadael y swydd os fydd y mesur yn pasio, y darogan ymysg sylwebwyr gwleidyddol yw na fydd hynny'n ddigon i newid meddyliau digon o bobl, ac mai methu eto fydd yr hanes.

Mae'r ddadl yn NhÅ·'r Cyffredin wedi dechrau ers 09:30 fore Gwener. Mae disgwyl i'r bleidlais ddigwydd am 14:30, gyda'r canlyniad yn dilyn tua 15:00.