Â鶹ԼÅÄ

£70,000 yn ddyledus i staff papur newydd yr Herald

  • Cyhoeddwyd
Thomas Sinclair

Mae golygydd papurau newydd Cymreig - sydd â dyled o filoedd o bunnoedd i gyn-aelodau staff - wedi cyfaddef ei fod yn "ddyn busnes gwael."

Mae Tom Sinclair, sy'n gyfrifol am bapurau'r Herald yng ngorllewin Cymru, wedi methu cydymffurfio â gorchmynion llys i ad-dalu dros £70,000.

Dywedodd undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, bod ei staff a'r gymuned leol "wedi'u trin yn warthus".

Cyfaddefodd Mr Sinclair ei fod wedi "gwneud camgymeriadau", ond mynnodd byddai'r busnes yn talu ei ddyledion.

Newyddiadurwyr a ffotograffwyr sydd ymhlith y rhai sydd heb eu talu gan grŵp yr Herald, sy'n cyhoeddi papurau yn Sir Benfro, Sir Caerfyrddin a Llanelli.

Mae Alan Evans, a weithiodd i'r papur yn Llanelli, yn disgwyl £6,500 o dâl sy'n ddyledus iddo.

Aeth â chwmni Mr Sinclair i'r llys, a cheisio stopio'r cwmni diweddaraf i redeg yr Herald rhag mynd i'r wal er mwyn gorfodi nhw i dalu dyledion.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb yr NUJ, Michelle Stanistreet bod yr Herald wedi "trin ei newyddiadurwyr yn wael ofnadwy"

Dwedodd Michelle Stanistreet, ysgrifennydd cyffredinol yr NUJ: "Mae pethau wedi bod yn warthus. Mae'r Herald wedi trin ei newyddiadurwyr yn wael ofnadwy.

"Mae'n ffiaidd eu bod wedi gorfod mynd drwy'r llysoedd i drio ennill yr arian sy'n ddyledus iddynt, am y gwaith y maent wedi creu a chynhyrchu.

"Ond mae'r ffaith nad ydynt wedi cael eu talu, er gwaethaf dyfarniadau llys, yn arbennig o ddidostur."

Dydy'r cwmni ddim wedi ufuddhau i orchmynion llys i dalu'r arian, ac mae cwmniau mae Tom Sinclair wedi ymwneud â nhw wedi mynd i'r wal yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Aeth Alan Evans, a fu'n gweithio i'r papur yn Llanelli, â'r golygydd i'r llys

Dwedodd Mr Evans: "Mae'n barod i gymryd agwedd foesol gyda'i bapur newydd, mae'n barod i roi unrhyw un ar y dudalen flaen am fân droseddau, ac eto mae'n gweithredu yn y ffordd anfoesol ac anonest hyn, heb dalu ei ddyledion."

Mae Mr Sinclair yn mynnu fod y cwmni wedi cael buddsoddiad newydd fydd yn galluogi'r papur i dalu cyflogau'r cyn-staff o fewn y chwe mis nesaf.

Gan addo talu Mr Evans a'r staff eraill, dywedodd Mr Sinclair ei fod wedi bod yn gyflogwr gwael, gan feio "penderfyniadau busnes gwael" ar ei ran ef.

"Fe wnaethon ni lansio pedwerydd papur newydd, y Ceredigion Herald, ac mewn gwirionedd roedd hynny'n gam yn rhy bell i'r grŵp. Wnaeth o ddim gwneud arian - fe gollodd lawer iawn o arian, a gadawodd hynny ni mewn sefyllfa lle'r oedd y grŵp cyfan bron wedi mynd i'r wal."

"Ond erbyn hyn rydyn ni wedi talu llawer o'r staff a oedd angen eu talu. Mae yna ychydig yn fwy o bobl i'w talu, ac rydym yn gweithio ar hynny a byddwn yn eu talu yn y pen draw."

Dywedodd Mr Sinclair ei fod am ddysgu o'i gamgymeriadau.

"Ydw, rydw i wedi bod yn ddyn busnes gwael. Dwi wedi gwneud pethau'n anghywir, dwi wedi gwneud camgymeriadau.

"Ond bob dydd dwi'n deffro a dwi'n dysgu rhywbeth newydd, ac yna rydyn ni'n symud ymlaen. Dyna sut mae bywyd yn gweithio."

Addasu lluniau

Mae Mr Sinclair hefyd wedi cyfaddef i Â鶹ԼÅÄ Cymru ei fod wedi cyhoeddi llun ffug ar ei dudalen flaen.

Ymddangosodd y ddelwedd ar flaen yr Herald yn 2017. Roedd y llun yn dangos pen troseddwr wedi'i ludo ar gorff dyn arall.

Y ffotograffydd Dimitrios Legakis oedd yn berchen ar y llun gwreiddiol oedd yn dangos corff troseddwr arall, ac mae wedi cyhuddo Mr Sinclair o ddefnyddio ei luniau sawl gwaith heb ganiatâd.

Ffynhonnell y llun, Dimitris Legakis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun gwreiddiol (chwith) ei addasu i gynnwys wyneb troseddwr arall ar dudalen flaen y papur newydd

Mewn e-bost at Mr Legakis, roedd y golygydd wedi honni bod rhywun wedi "gwerthu delwedd ffug yn fwriadol" i'r papur ac y byddai'n "ystyried trosglwyddo'r mater i'r heddlu."

Ond pan ofynnodd Â鶹ԼÅÄ Cymru am y ddelwedd, cyfaddefodd Mr Sinclair fod ei bapur newydd ei hun wedi creu'r llun ar gyfer y dudalen flaen, ond gwadodd bod angen iddo dalu Mr Legakis am ddefnyddio lluniau heb ganiatâd.

"Fe wnaeth rhywun sy'n gweithio yn ein hadran ddylunio 'Photoshop' o'r ddelwedd.

"Ni ddylai hynny fod wedi digwydd, ac fe gafodd y person hwnnw ei ddiswyddo o'r Herald.

"Achosodd hynny lawer o embaras ar y pryd, ond mae'n rhan o'r broses o ddysgu wrth ddechrau papur newydd. Weithiau'n rydych chi'n gwneud camgymeriad - ac roedd hynny'n gamgymeriad."