Â鶹ԼÅÄ

Papur newydd y Ceredigion Herald yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
golygydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r golygydd, Tom Sinclair, yn dweud mai'r Ceredigion Herald oedd "cyswllt gwan" y cadwyn o bapurau newydd

Mae papur newydd dwyieithog y Ceredigion Herald yn dod i ben, lai na dwy flynedd ers iddo gychwyn.

Dywedodd y cyhoeddwyr, grŵp Herald Newspapers, y byddai'r papur yn parhau fel gwefan.

Ond maen nhw'n mynnu na fydd effaith ar eu tri phapur arall yn Sir Benfro, Sir Gâr a Llanelli.

Dywedodd y golygydd mai'r papur yng Ngheredigion - sy'n gwerthu 3,000 copi'r wythnos - oedd y gwannaf o'u cyhoeddiadau.

'Dim colli swyddi'

Y Pembrokeshire Herald y grŵp, a gychwynnodd yn 2013.

Cafodd fersiynau yn Sir Gâr a Llanelli eu cyhoeddi gyntaf yn 2015, gyda'r papur yng Ngheredigion .

Ond cyfrol rhif 90 o'r papur hwnnw - ddaeth allan ddydd Gwener - fydd yr olaf i gael ei argraffu.

Yn ôl Tom Sinclair, golygydd y papurau, roedd ffigyrau gwerthiant y papur yn is na'r cyhoeddiadau eraill.

Dywedodd bod 13,500 copi o bapur Sir Benfro yn cael eu dosbarthu'n wythnosol, gyda 6,500 ohonyn nhw'n cael eu gwerthu a'r gweddill yn cael eu rhoi am ddim.

Mae 6,000 copi o'r papur yn Sir Gâr a 5,000 copi o fersiwn Llanelli yn cael eu gwerthu pob wythnos.

Dywedodd Mr Sinclair hefyd na fydd swyddi'n cael eu colli a bod "dim yn bod" ar y papurau eraill.

Ychwanegodd y byddai'r cwmni'n parhau i ddefnyddio'r Gymraeg.

Yn gynharach eleni, am gyhoeddi erthygl gyda gwybodaeth allai fod wedi datgelu pwy oedd y person gafodd eu targedu mewn ymosodiad rhyw.

Mae'n apelio'r penderfyniad.