Aelod Cynulliad UKIP, Michelle Brown yn gadael y blaid

Ffynhonnell y llun, UKIP

Mae grŵp UKIP yn y Cynulliad i lawr i dri aelod ar ôl i un o'u haelodau adael y blaid - y pedwerydd i wneud hynny ers 2016.

Dywedodd yr AC dros ogledd Cymru, Michelle Brown ei bod hi'n "gynyddol anghyfforddus yn siarad a phleidleisio ar ran grŵp UKIP".

Mae'n disgrifio grŵp UKIP yn y Cynulliad fel "clwb i fechgyn... rhywiaethol" ac yn dweud na allai stumogi'r blaid yn gyffredinol yn sgil cysylltiad yr arweinydd Gerard Batten â'r eithafwr asgell dde, Tommy Robinson.

Bydd hi nawr yn cynrychioli'r gogledd fel AC annibynnol. Mae UKIP wedi cael cais am ymateb.

Mae'n dilyn ymadawiad cyn-arweinydd y grŵp, Caroline Jones y llynedd. Yn 2017, fe symudodd Mark Reckless draw at y Ceidwadwyr, cyn i Nathan Gill hefyd adael y grŵp.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Brown ei bod wedi ofni bod synnwyr cyffredin yn pylu o fewn y blaid pan rannodd Mr Batten a'r AC Neil Hamilton lwyfan â chyn-arweinydd yr EDL (English Defence League) Tommy Robinson, a gafodd ei benodi fel ymgynghorydd i'r blaid y llynedd.

Mae'n honni bod e-bost gan Mr Batten ddydd Gwener yn datgan bod Mr Robinson am noddi digwyddiad UKIP - cam, meddai, sy'n cynyddu "ei gysylltiad a'i statws o fewn UKIP".

Ffwndamentaliaeth

"Tra bod hi'n glir bod y DU angen cynllun i drechu pob math o eithafiaeth a ffwndamentaliaeth, rwy'n ofni bod arweinyddiaeth bresennol UKIP yn credu taw'r ffordd orau o wneud hynny yw trwy fagu a meithrin ffwndamentaliaeth groes," meddai.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae Michelle Brown yn pryderu am gysylltiad Tommy Robinson ag UKIP

Mae Ms Brown yn beirniadu arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Gareth Bennett, gan ddweud iddo wneud dim ymdrech i gadw Caroline Jones o fewn y grŵp, a chwarae rhan allweddol o ran peidio â chynnwys Mandy Jones yn y grŵp wedi iddi hithau olynu Mr Gill yn y Senedd.

"Dyw'r grŵp ddim yn gweithredu fel grŵp ond fel clwb i fechgyn," meddai. "Nid ffawd sydd i gyfri' bod dim aelodau benywaidd ynddo erbyn hyn."

Ychwanegodd nad oedd wedi cael cyfrannu i'r broses o benderfynu sut ddylai'r grŵp bleidleisio ar faterion amrywiol ers misoedd.

Dywedodd ffynhonnell o fewn UKIP bod penderfyniad Ms Brown i fod yn AC annibynnol "ddim yn annisgwyl".

Mae'r blaid wedi gweld sawl ffrae fewnol ers i saith aelod gael eu hethol i'r Cynulliad yn 2016 a Mr Bennett yw trydydd arweinydd y grŵp ym Mae Caerdydd ers hynny.

Dan reolau'r Cynulliad mae'n rhaid cael o leiaf tri AC er mwyn cael eu cofnodi a'u cyllido fel grŵp ffurfiol.