Â鶹ԼÅÄ

Mark Reckless yn ymuno â grŵp y Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd
Mark RecklessFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Aelod Cynulliad Mark Reckless wedi gadael UKIP er mwyn ymuno â grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Fe ddaeth y cyhoeddiad brynhawn dydd Iau fod Mr Reckless, sy'n AC rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, yn ymuno â grŵp y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd yn dilyn trafodaethau gydag arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies.

Ond er na fydd Mr Reckless yn ailymuno â'r blaid Geidwadol yn swyddogol, fe fydd yn eistedd fel AC Ceidwadol yn y Cynulliad, medd Mr Reckless ei hun, gan ddweud bod Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i hynny.

Wrth groesawu Mr Reckless, dywedodd Mr Davies: "Ers iddo gael ei ethol i'r Senedd flwyddyn diwethaf, mae Mark wedi profi ei hun i fod yn AC gweithgar ac ymroddedig, sydd wedi bod yn gynrychiolydd effeithiol ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru.

"Bydd yn awr yn gallu parhau â'r gwaith hwn fel rhan o dîm cryf ac unedig fel yr wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad."

Ychwanegodd Mr Reckless ei fod yn falch o fod yn "rhan o dîm cryf ac unedig o Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd", ac y bydd y grŵp yn "parhau i daflu goleuni ar fethiannau Llafur o dan Carwyn Jones a'i gyfeillion ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nigel Farage groesawu Mark Reckless i UKIP yn 2014

Mae peth anfodlonrwydd am ei dderbyn yn ôl i'r Ceidwadwyr, ar ôl iddo adael y blaid i ymuno ag UKIP yn 2014.

Aeth yr aelod seneddol dros Rochester a Strood ar y pryd ymlaen i ennill is-etholiad ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, cyn colli'r sedd yn etholiad cyffredinol Mai 2015.

Cafodd ei ethol i'r Cynulliad ym mis Mai 2016, wrth i UKIP ennill ei seddi cyntaf ym Mae Caerdydd, ac ef yw cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Yn y gorffennol, mae Mr Reckless hefyd wedi bod yn ymchwilydd i Douglas Carswell, adawodd UKIP fis diwethaf.

'Ymddygiad dianrhydeddus'

Dywedodd cyn arweinydd UKIP, Nigel Farage, ei fod yn "ddianrhydeddus" i Mr Reckless adael y blaid, oherwydd ei fod wedi ei ethol ar restr ranbarthol.

"Rydw i wedi hoffi Mark Reckless erioed, ond os yw'n credu y gallai adael ar ôl cael ei ethol ar system rhestr yna mae hynny'n ymddygiad dianrhydeddus iawn," meddai.

Ychwanegodd Byron Davies, AS Ceidwadol Gŵyr, nad oedd yn credu bod penderfyniad yr arweinydd Andrew RT Davies i ganiatáu i Mr Reckless ymuno â'r grŵp "yn syniad hynod ddoeth".

"Bydden i'n hynod, hynod ofalus gyda sut maen nhw'n delio ag e," meddai'r cyn-Aelod Cynulliad.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru, Aled ap Dafydd

Mae Mark Reckless yn hen law ar newid pleidiau ac felly yn fwy ymwybodol na neb o'r oblygiadau.

Gydag un Aelod Cynulliad ychwanegol fe all y Ceidwadwyr gyfeirio at eu hunain fel "Y Brif Wrthblaid".

Tra bod hynny yn symbolaidd ac yn bluen yn het yr arweinydd Andrew RT Davies, bydd yn rhaid i Mr Reckless gyfiawnhau pam nad yw'n sefyll lawr fel Aelod Cynulliad, fel y gwnaeth o wrth newid plaid tra'n Aelod Seneddol.

Dyma'r ail aelod o grŵp Cynulliad UKIP i adael y rhengoedd ac mae aelodau'r blaid yn lleol yn cynnal pleidlais o ddiffyg hyder mewn aelod arall, Michelle Brown.

A fydd mwy yn dilyn trywydd Mark Reckless yw'r cwestiwn mawr.

Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton wedi dweud y dylai Mr Reckless ymddiswyddo fel AC yn hytrach nag ymuno â'r grŵp Ceidwadol.

Oherwydd ei fod wedi cael ei ethol fel AC rhanbarthol, ni allai isetholiad gael ei gynnal os yw'n gadael UKIP yn swyddogol.

Yr unig ffordd y gallai rhywun gymryd ei le fel AC felly yw iddo ymddeol o'r rôl.

Dywedodd Mr Hamilton: "Mae Mr Reckless wedi bradychu ymddiriedaeth cefnogwyr y blaid, ac nid oes ganddo fandad i eistedd fel AC Ceidwadol yn y Senedd."