Ateb y Galw: Y gantores Mabli Tudur

Ffynhonnell y llun, Mabli Tudur

Y gantores Mabli Tudur sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Eädyth yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cwrdd â fy chwaer, Betsan, am y tro cyntaf yn yr ysbyty.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Tom Daley a Justin Bieber... o'dd posteri gen i ym mhob man!

Disgrifiad o'r llun, Mae gan y deifiwr, Tom Daley, nifer o fedalau o dan ei felt (neu ei siorts nofio)

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwyn losin o'r siop pan yn wyth...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos diwethaf.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Brathu gwinedd ac ymddiheuro dros bopeth.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llangrannog - pam ddim?

Disgrifiad o'r sainMabli yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2017

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Nofio yn y môr ar wyliau gyda fy ffrindiau gorau yn y nos (yn borcyn) a chael ein dal gan yr heddlu!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gullible, edgy, angerddol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

About Time - ma'r gerddoriaeth, yr actio a'r stori yn anhygoel.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Emma Thompson (ma' hi'n ôsym), Lisa Kudrow (tips actio a chomedi) a Jeremy Jordan.

Disgrifiad o'r llun, Mae Emma Thompson yn seren ar lwyfan, y sgrin fach a'r sgrin fawr - ac mae Mabli'n meddwl ei bod hi'n 'ôsym'

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n gallu gwneud impression da o Krusty the Clown o The Simpsons.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ymlacio ar draeth yn yr Eidal (Positano).

Beth yw dy hoff gân a pham?

Archie, Marry Me gan Alvvays.

O archif Ateb y Galw:

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Sushi / Cinio rhost / Sticky toffee pudding â chwstard.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Lily James.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Alffa