Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Y gantores Eädyth

  • Cyhoeddwyd
Eädyth

Y gantores Eädyth sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio cael lot o hwyl yn creu tai bach twt efo blancedi. O'n ni - fi a Kizzy [Crawford, ei chwaer] - yn eu galw'n 'binkis'. O'dd fi a fy chwaer yn treulio oriau ynddo nhw.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Un o fy hoff raglenni teledu oedd The Mighty Boosh ac o'dd gen i crush masif ar Noel Fielding. O'n i'n caru'r ffasiwn a pa mor unigryw a doniol oedd e.

Disgrifiad o’r llun,

Oedd Eädyth yn ffansio Noel Fielding hyd yn oed yn y wisg arian ddiddorol yma?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pryd o'n i tua 12 'nath fi a fy ffrindiau sgipio gwers bowlio i fynd lawr i'r siop i brynu losin. Nes i gael row masif.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn ddiweddar nes i frifo fy mysedd a slitio un wrth i fi ruthro mewn i'r tŷ i nôl gêr cyn gig. Nes i ddim sylweddoli nes i fi weld y gwaed, o'n i'n sgrechian y tŷ lawr. Dwi'n iawn ddo!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n rili gwael am ddweud y stori cyfan am ffilm neu lyfr cyn i rywun ddarllen neu gwylio nhw!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yw lle ydw i... Ynysowen! Dwi'n byw o gwmpas pob math o natur! Ond dwi'n caru'r mynyddoedd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cael bod yng ngŵyl Glastonbury yn 2016 yn gwylio Massive Attack yn fyw! Profiad immense ond blinedig yn crwydro o gwmpas yn y mwd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eädyth hwyl yng ngŵyl gerddoriaeth Glastonbury, er yr holl fwd...!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Vivacious, bubbly, penderfynol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff ffilm yw Catch me if you can. Dwi'n rili hoffi Leonard DiCaprio felly fel arfer dwi'n gwylio unrhywbeth efo fe ynddo!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

'Swn i'n dweud Erykah Badu. Sit down efo peint a cael chat am miwsig.

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwin vegetarian ac yn trio mynd yn vegan nawr.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gwario pres fi i gyd ar gêr newydd a cael parti hiwj yn yr ardd.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Fy hoff gân ar hyn o bryd yw Natural Woman gan Kaiit. Mae Kaiit yn ysbrydoli fi lot ar hyn o bryd - mae ei chaneuon hi mor soulful a mae'r gân yma yn rili siarad â fi.

Disgrifiad,

Sesiwn arbennig Eädyth gyda Dafydd a Caryl ar y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Halloumi fries gyda sweet chilli sauce, Fajitas halloumi efo guac, salad a salsa ac i bwdin, cacen caws siocled... dwi'n rili hoffi halloumi!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Byswn i'n dewis bod yn anifail, fel hummingbird a hedfan dros y byd!

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mabli Tudur

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw