Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Leni Hatcher

  • Cyhoeddwyd
Leni

Y cyflwynydd Leni Hatcher sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon ar ôl iddi hi gael ei .

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf oedd cael gwisg nyrs newydd sbon i fynd i weld fy mrawd bach ar ôl ei enedigaeth. Fi dal yn cofio'r excitement nawr, nid yn unig oedd gen i frawd bach yn disgwyl amdana i yn yr ysbyty ond o'n i nawr yn cael bod yn nyrs fel fy modryb! Cefais hefyd briefcase doctor i blant, a dyna lle fues i am oriau yn yr ysbyty yn checio bod calon fy mrawd bach yn curo, checio ei dymheredd ac wrth gwrs 'neud yn siŵr fod Mam yn 'neud yn union fel oedd y doctoriaid yn dweud. Yr unig siom oedd bod rhaid i fi adael yr ysbyty yn y diwedd i fynd i rhyw barti benblwydd, a bu stranco mawr yn ôl fy mam, ond wrth gwrs dwi ddim yn cofio'r rhan yna!!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Heb os nag oni bai Nick Carter o'r Backstreet Boys! O'n i wrth fy modd gyda'i gyrtens floppy melyn…(newydd ei googlo fe… ma' fe dal yn ffit!)

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Canu ar 'Carolau Gobaith' ar S4C. O'n i wedi cael arddeall fod PAWB oedd yn cymryd rhan yn ofnadwy yn canu. Ond wrth gwrs dim fel 'na oedd hi, roedd pawb arall (heblaw am yr hyfryd Bethan Gwanas a fi - oedd yn yr un cwch, druan â ni) yn canu fel 'se nhw 'di bod ar lwyfan am flynyddoedd.

A dyna lle o'n i'n canu ar lwyfan wrth ymyl brenhines 'Phantom of the Opera' (Shân Cothi), chwys yn rhedeg i lawr fy ngwyneb... a'r band yn dechrau chwarae... a'r llais bach bach bach bach 'ma'n dod mas!!!

Mae Bethan G a fi yn dal i chwerthin pan ry'n ni'n gweld ein gilydd… bu dagrau di-ri!!!

Disgrifiad o’r llun,

Leni yn cael hwyl wrth gyflwyno 'Y Lle' gyda Griff Lynch

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ar ôl canlyniad y bleidlais Ewropeaidd. Fe wnes i aros lan drwy'r nos i wylio'r canlyniad a'r bore wedyn oedd gen i gyfarfod 'adborth' gyda fy mos yn y Â鶹ԼÅÄ. Naeth e ofyn 'Duw Leni be sy'n bod, ti'n iawn?'… eiliadau wedyn môr o ddagrau!!! Mae'n bosib bod hwn yn ateb i gwestiwn 3 hefyd. Chwarae teg iddo fe, roedd e'n hyfryd am y peth.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes digon… ond yr un sy'n weindio pobol lan fwyaf yw mod i WASTAD yn hwyr. Ma' lot o'n ffrinidau i erbyn hyn yn dweud wrtha i ein bod ni'n cwrdd 30 munud yn gynt fel bo' fi'n cyrraedd ar amser!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Cwestiwn da. Pan fues i'n gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cefais weld llawer iawn o lefydd anhygoel yng Nghymru tra'n byw yn fy nghamperfan. Ond fy ffefryn rhwng dau: Plasnewydd yn Ynys Môn, ma' 'na waith celf anghygoel yna gan yr artist Rex Whistler - llun enfawr yn llawn straeon bach doniol. Ac yn ail, Sgwd yr Eira - rhaeadr anhygoel ym Mannau Brycheiniog lle gallwch chi gerdded tu ôl i'r sgwd!

Disgrifiad o’r llun,

Peidiwch a gwlychu! Rhaeadr Sgwd yr Eira ym Mannau Brycheiniog

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd fy mharti pen-blwydd yn 30 yn eitha epic rhaid cyfadde. Penderfynais gael parti glitter ar gae fferm fy Mam. 'Wnaeth digon o bethau nuts ddigwydd y noson honno yn cynnwys un o fy ffrindiau gorau (sy'n vegan) yn torri ei haddewid ar ôl gweld yr hog roast -a dyna lle roedd hi lan i'w phen a'i chlustiau mewn crackling! Mae dal glitter ar lawr y cae flwyddyn yn diweddarach ac weithiau ma ôl glitter i weld ar gotiau'r gwartheg!!!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Emosiynol, direidus ac unpredictable... beth yw hynny yn Gymraeg?

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Nicers!

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi'm yn un am ddarllen nofelau os ydw i'n onest ond dwi wrth fy modd gyda llyfrau 'Lonely Planet'. Fi newydd gyfri sawl un sydd gen i… 32! Felly os oes unrhywun ar fin mynd i deithio dewch draw i'r llyfrgell.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leni yn hoff o deithio. Ble fydd y camperfan yn mynd nesa?

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Black Cauldron' Disney ar DVD. (Oeddech chi'n gwbod bod Disney wedi gwneud ffilm gartŵn am hanes y Twrch Trwyth? Na? Enwau'r cymeriadau yw Taran ac Eilonwy a Henfych Hen - ond mae'n ffilm eitha' tywyll a dyw Disney ddim yn lico siarad amdani! Tywysogoes Eilonwy yw'r unig dywysoges Disney sydd DDIM yn ymddangos yn y Princess Parade - siom.)

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

'Sen i'n licio gweud Jenna Dewan achos ma hi'n awesome neu Zooey Deschanel… ma'r ddwy yn eitha nyts!

Dy hoff albwm?

Britney Spears 'Ooops i did it again!' neu unrhyw albym Britney. (She's such a survivor!)

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Pwdin bob tro - mae gen i ddant melys iawn iawn a 'sen i siŵr o fod yn mynd am rywbeth â lemon drizzle ynddo fe - IYM! Fel lemon compote!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Disgrifiad o’r llun,

Britney Spears, un o arwyr Leni

Wel y dewis amlwg fyddai Britney Jean Spears ond gadwch i fi ddefyddio'n nychymyg ychydig, beth am un o animeiddwyr Disney? 'Sen i wrth fy modd yn cael y dalent yna am jest un diwrnod.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Bethan Gwanas