Â鶹ԼÅÄ

Swyddi'r Orsedd: Dynion a merched i gael ymgeisio

  • Cyhoeddwyd
Swyddi'r Orsedd

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi bod modd i ddynion yn ogystal â menywod ymgeisio i fod yn gyflwynydd y Flodeuged a chyflwynydd y Corn Hirlas ym mhrif seremonïau Eisteddfod Ceredigion yn 2020.

Dim ond menywod sydd wedi gallu ymgymryd â'r rôl yn y gorffennol.

Yn yr un modd bydd hawl i fechgyn yn ogystal â merched o ysgolion lleol gymryd rhan yDdawns Flodau.

Dywed yr hysbyseb ar gyfer y Ddawns Flodau ar : "24 o blant ysgolion y dalgylch fydd yn perfformio'r ddawns ac estynnir gwahoddiad i rai sydd ar hyn o bryd ym mlynyddoedd 4 a 5 ysgolion Ceredigion i fynychu clyweliad er mwyn i ni ddewis sgwad o tua 30.

"Mae croeso i fechgyn a merched ymgeisio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Myrddin ap Dafydd wedi holi a ydy hi'n bryd i'r Orsedd foderneiddio

Eleni bydd Myrddin ap Dafydd yn Archdderwydd am y tro cyntaf a hynny yn Eisteddfod Sir Conwy, Llanrwst, ond bydd y newidiadau diweddaraf yn dod i rym ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2020.

Y llynedd dywedodd Mr ap Dafydd fod yr Eisteddfod wedi moderneiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond awgrymodd ei bod hi'n bryd i'r Orsedd foderneiddio hefyd.

Mae'r Eisteddfod a'r Orsedd yn sefydliadau ar wahân, gyda'r Orsedd yn gyfrifol am brif seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol - y Coroni, y Cadeirio a'r Fedal Ryddiaith.

Wrth ymateb i'r newidiadau dywedodd Elin Jones, AS Ceredigion a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith Tregaron 2020, mai mater i'r Orsedd yw'r newidiadau ond ychwanegodd eu bod yn ei barn hi yn "edrych yn rhai cyffrous iawn" ac yn llawer mwy cynrychioladol o'r ganrif yma.

"A dwi'n falch iawn taw yng Ngheredigion y byddan nhw yn cael eu gweithredu'n gyntaf," meddai.

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsedd sy'n gyfrifol am brif seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol

Ar raglen Taro'r Post, Radio Cymru, dywedodd yr awdur Jon Gower ei fod yn credu y byddai yna groeso cyffredinol i'r newidiadau.

"Petai chi'n dweud bod yna ddymuniad i newid geiriad defodau neu strwythur y pethau yma fyddai pobl wedi mynd yn grac.

"Ond byddwn i yn gobeithio y bydd Cymry aeddfed, bywiog yn croesawu hyn ac yn mynd i dderbyn hyn heb feddwl dwywaith."

"Mae'r Eisteddfod fel sefydliad wedi bod yn arafach i newid ond mae 'na resymau am hynny.

"Mae'n digwydd unwaith y flwyddyn, mae angen glynu at rai o'r traddodiadau achos y traddodiadau hynny yw asgwrn cefn y peth."

Disgrifiad o’r llun,

Mam y Fro, Elen Lloyd, a rhai o ferched y ddawns flodau yn Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013

Dywedodd Selwyn Jones o Bontrhydfendigaid, sy'n aelod o'r Orsedd, wrth Taro'r Post ei fod o'r farn fod pethau eisoes yn gydradd o ran dynion a merched.

"O'n i ddim yn meddwl bod yna broblem. O'n i'n meddwl fod popeth yn gydradd.

"Ond iawn bod y newidiadau yn cymryd lle, does gen i ddim byd yn erbyn nhw o gwbl.

"Yr unig beth sy'n bwysig i mi yw bod yr Orsedd yn sefyll a bod yna ddim newidiadau mawr yn cymryd lle."

Yn ôl Cofiadur yr Orsedd, Christine James, mae'r gymdeithas "wedi newid ac mae geiriau fel cynhwysedd ac amrywiaeth yn bwysig ymhob math o feysydd".

"Mae'n gywir i'r Orsedd fynd i'r un cyfeiriad. Pan oeddwn i yn yr ysgol roedd y merched yn dysgu gwnïo a'r bechgyn yn gwneud gwaith coed.

"Erbyn hyn mae'r bechgyn a merched i gyd yn cael gwneud yr un gweithgareddau a dwi'n credu bod hi'n bwysig bod yr Orsedd yn adlewyrchu'r newidiadau yn yr ystafell ddosbarth."

'Hen ffasiwn'

Un sy'n croesawu hynny ydy Rhian Williams, Cyflwynydd y Corn Hirlas yn Eisteddfod Caerdydd y llynedd.

"Fe fyddai'r swydd honno'n cael ei galw yn Fam y Fro, ond mae'n enw nad ydy'r Orsedd yn ei gymeradwyo erbyn hyn, a fydd dim rhaid i'r Cyflwynydd yn y dyfodol fod yn fenyw, nag yn rhiant o ran hynny.

"Alla'i weld fod o'n cael ei weld yn rhywbeth hen ffasiwn os ydy'r teitl yn cael ei weld yn llythrennol - Mam y Fro - a bod rhaid i rywun roi genedigaeth i blentyn i gymryd y rol.

"Ond dwi'n gwybod bod pobl sydd wedi mabwysiadu'n cael eu cynnwys o fewn yr hen deitl....

"Ond os ydy'r peth yn cael ei agor ymhellach i bobl sy'n gallu cyflwyno heb fod a phlant o gwbl, yna dwi ddim yn gweld unrhyw ddrwg yn hynny chwaith."