Â鶹ԼÅÄ

Y darpar Archdderwydd am drafod Gorsedd y Beirdd

  • Cyhoeddwyd
Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Myrddin ap Dafydd yn holi a ydy hi'n bryd i'r Orsedd foderneiddio

Wrth iddo baratoi i arwain Gorsedd y Beirdd am y tair blynedd nesaf, mae'r darpar Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wedi holi a ydy hi'n bryd iddi gael ei diwygio.

Mewn cyfweliad ar raglen Manylu Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru mae Mr ap Dafydd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd yr Orsedd, sy'n cynrychioli traddodiad sy'n mynd yn ôl 3,000 o flynyddoedd.

Ond mae'n dweud bod yr Eisteddfod wedi moderneiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn awgrymu ei bod hi'n bryd i'r Orsedd foderneiddio hefyd.

Mae'r ddau yn sefydliadau ar wahân, gyda'r Orsedd yn gyfrifol am brif seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol - y Coroni, y Cadeirio a'r Fedal Ryddiaith.

Cafodd seremoni'r Coroni a'r Cadeirio ar eu ffurfiau presennol eu llunio yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.

Cafodd yr Orsedd fel yr ydym ni'n ei hadnabod hi ei sefydlu gan Iolo Morgannwg, bardd a ffigwr llenyddol cynhyrchiol o'r 18fed ganrif.

Dywed Myrddin ap Dafydd fod Cylch yr Orsedd yn deillio o draddodiad sy'n llawer hŷn, o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Roedd diwylliant y derwyddon yn un llafar... mi wyddai'r Rhufeiniaid o ddileu'r derwyddon mi fydden nhw'n dileu cof y Celtiaid... a'u troi nhw'n Lladinwyr.

"Ond mae'r ffaith bod 'na gylch o feini yn fan hyn yn dangos 'na wnaeth cynllun y Rhufeiniaid weithio."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsedd sy'n gyfrifol am brif seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol

Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy y flwyddyn nesaf, fe fydd yr Eisteddfod yn dathlu 200 mlwyddiant ei chysylltiad â'r Orsedd.

Mae rhai wedi awgrymu bod elfennau o'r seremonïau yn hen ffasiwn ac anacronistaidd.

Dywedodd Gruffudd Owen, enillydd y Gadair yn Eisteddfod Caerdydd, bod rhai elfennau o'r seremoni yn gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.

"Y syniad o Fam y Fro a Morwyn y Fro yn benodol.

"Hynny 'di fod gennych chi un wraig yna yn seiliedig ar y ffaith ei bod hi'n cenhedlu plant, ac wedyn fod ganddoch chi ferch sydd yn forwyn fel petai.

"Does 'na 'run dyn yna yn seiliedig ar hynny," meddai.

Gwahaniaeth barn

Mae rhai yn mynd yn bellach, gyda'r bardd benywaidd ifanc Grug Muse yn galw am newid rôl merched a'r Ddawns Flodau.

"Da ni'n byw mewn cymdeithas lle mae merched ifanc iawn yn cael eu rhywioli, gan fideos cerddoriaeth, gan gyfryngau poblogaidd a dyw hi ddim anodd ei weld o yn y ddawns flodau," meddai.

Ond mae Gruff Meredith, sy'n gyd-olygydd papur newydd y Cymro, yn amddiffyn lle merched yn y seremonïau.

"Mae jest yn seremoni urddasol, waraidd.

"Dwi ddim yn gweld be' 'di'r broblem," meddai.

"Mae rôl merched yn cael ei ddathlu a'i roi ar bedestal."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Seremoni urddasol neu amherthnasol i'r oes fodern?

Doedd y Cofiadur, y Prifardd Christine James, ddim am drafod unrhyw ddiwygio nes y bydd cyfarfod o Fwrdd yr Orsedd wedi ei gynnal.

Ond fe wnaeth ryddhau datganiad yn dweud: "Mae'r Orsedd yn adolygu ei seremonïau yn gyson, yn nhrefn arferol cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a'i Is-Baneli, ac ni fydd eleni'n eithriad.

"Rydym yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaed yn y wasg a'r cyfryngau yn ddiweddar, a byddwn yn sicr o roi ystyriaeth ddyledus iddynt yn ein cyfarfod nesaf."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol nad oeddynt am ymateb ar hyn o bryd.

Fe fydd rhaglen Manylu yn cael ei darlledu ar Radio Cymru a Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 am 12:30.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw