Bethan Sayed: Beth sy' 'na i de?

Mae Bethan Sayed yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru. Ers iddi briodi ei gŵr Rahil, mae'n arbrofi gyda bwyd Indiaidd ac erbyn hyn mae'n methu bwyta pryd o fwyd heb sbeis ynddo...

Ffynhonnell y llun, Bethan Sayed

Beth sy' i de heno?

Prawn Biryani Mumbai.

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Fi a fy ngŵr, Rahil.

Ffynhonnell y llun, Bethan Sayed

Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu beth sy' i de?

Beth dwi'n ffansio ei fwyta yn y foment honno. Mae'n gallu amrywio o awr i awr, ac felly penderfynu ar y bwyd penodol, a'r amser sydd gen i ar ôl gwaith i'w goginio, yw'r sialensau!

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Dwi'n dda yn gwneud Palak Paneer nawr, sef cyri caws o India gyda spigoglys (spinach)

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Å´y wedi ei sgramblo ar dost.

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Maen nhw wedi newid yn llwyr. Alla' i ddim rhoi mewn i eiriau yn effeithiol sut mae fy arferion wedi newid. Cyn i mi gwrdd â fy ngŵr (sydd yn dod o India yn wreiddiol) doeddwn i ddim yn bwyta bwyd gyda sbeis bron o gwbl. Roeddwn i'n dewis y cyri heb lawer o sbeis os oeddwn i mewn bwyty, a doeddwn i ddim yn coginio cymaint o bethau cymhleth ar fy liwt fy hun. Roedd fy repertoire yn gul!

Ffynhonnell y llun, Bethan Sayed

Ar ôl cwrdd â Rahil, dwi ddim yn gallu goddef bwyd heb sbeis, ac mae angen olew chili a chilis bron ymhob pryd o fwyd dwi'n coginio. Pan es i i India y flwyddyn d'wethaf ar gyfer fy mhriodas, ges i fwyd cartref gwefreiddiol gan fam Rahil, a bwyd mewn bwytai lle roedd y blas mor ddwys. Mae bwyd India ar lefel arall.

Felly pan ddes i nôl i Gymru, roedd e'n anodd addasu, a dyna pam nes i ddechrau coginio mwy o fwyd fy hun, i weld os oeddwn i'n gallu coginio gan greu yr un fath o flasau â ges i yn India. Mae coginio yn therapiwtig iawn, ac yn helpu fi i ymlacio ar ôl dydd yn y Senedd. Dwi hefyd yn paratoi digon i fynd mewn i'r gwaith gyda fi y diwrnod wedyn.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Biryani traddodiadol, oedd yn cael ei fwyta gan Nawabs Indiaidd [swyddogion uchel eu statws] yn wreiddiol. Mae e'n cymryd sbel i goginio yn iawn. Mae angen coginio hwn fel eich bod yn creu haenau o fwyd gyda'r reis, ac wedyn gadael y biryani gyda chlwtyn ar ben y pot er mwyn bod y cynhwysion yn cael amser i weddu gyda'i gilydd yn dda. I orffen, dwi'n caru Ras Mala(cacen grwn o gaws paneer mewn llaeth, melys) ond yn arbennig os mae nhw'n dod o'r siop Eden yn Mumbai.

Ffynhonnell y llun, Bethan Sayed

Disgrifiad o'r llun, Coginio'r Biryani yn y ffordd draddodiadol

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Dwi'n ceisio peidio gweld bwyd yn y ffordd hyn. Dwi 'di gweithio gyda phobl gyda anhwylderau bwyta ers blynyddoedd nawr. Mae bwyta unrhyw beth 'da chi eisiau mewn ffordd synhwyrol yn iawn. Dwi'n hoff o pizza a chacen gaws siocled neu sticky toffee pudding!

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?

Jal Jeera - mae'n ddiod sydd wedi cael ei wneud allan o cumin a phupur du. Dyw e ddim at fy nant i, ond mae'n dda ar gyfer eich system treuliad.

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Tarten afal a riwbob Mam. Roedd hi'n coginio fe ar gyfer nos Calan Gaeaf a wastad yn rhoi arian wedi ei lapio mewn ffoil yn y canol. Felly, dwi'n cofio bwyta'r darten a gobeithio fod digon o arian yno i mi fynd i'r siop i brynu losin y dydd wedyn 'ny!

Ffynhonnell y llun, Bethan Sayed

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Os yn coginio bwyd Indiaidd yn benodol, i beidio bwyta yn syth ar ôl gorffen coginio - gadael y bwyd i orffwys am 15 munud. Mae'r blas yn well (hyd yn oed yn well y diwrnod wedyn os oes bwyd ar ôl!)

Beth oedd dy hoff bryd o fwyd erioed?

Thali Llyseuol yn y Lake Palace Hotel yn Udaipur ar ein mis mêl. Arbennig!

Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?

Byddaf i ddim yn bwyta siarc. Es i i Wlad yr Iâ cwpl o weithiau, ac roedd hwnnw ar y fwydlen.

Ffynhonnell y llun, Bethan Sayed

Disgrifiad o'r llun, Rahil a Bethan yn mwynhau eu swper

Hefyd o ddiddordeb: