Â鶹ԼÅÄ

'Hyd at hanner siopau bwcis Cymru mewn perygl o gau'

  • Cyhoeddwyd
Peiriannau gamblo fixed oddsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bet fwyaf y gellir ei roi ar beiriant gamblo electroneg yn gostwng o £100 i £ 2 ym mis Ebrill

Gallai hyd at hanner y siopau bwcis yng Nghymru gau oherwydd cyfyngiadau ar faint o arian y gellir ei roi ar beiriannau gamblo electronig.

Dyna'r rhybudd gan y corff sy'n cynrychioli siopau betio, sy'n dweud y gallai hyd at 1,000 o swyddi gael eu colli o ganlyniad i'r newidiadau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio rhoi mwy o bwerau i gynghorau dros ble mae siopau betio newydd wedi'u lleoli er mwyn osgoi rhoi gormod ohonynt mewn rhai ardaloedd.

Dywedodd Cymdeithas Bwcis Prydain eu bod nhw'n gobeithio gweld Llywodraeth Cymru yn cydweithio â nhw i liniaru'r effaith ar swyddi yn dilyn newidiadau mewn deddfwriaeth.

Yn ôl y Comisiwn Gamblo, yn 2016, roedd gan 25,000 o bobl broblem gyda gamblo yng Nghymru ac yn ôl amcangyfrif, mae 100,000 o bobl eraill mewn perygl o gael problem gamblo.

Cafodd y peiriannau gamblo electronig eu cyflwyno mewn casinos a siopau betio yn 1999, ac maent yn cynnig gemau cyfrifiadurol wrth gyffwrdd botwm.

Ym mis Ebrill, bydd y bet fwyaf y gellir ei roi yn gostwng o £100 i £2.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 390 o siopau betio yng Nghymru, sy'n cyflogi bron i 2,100 o bobl

Dywedodd Cymdeithas Bwcis Prydain wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "O fis Ebrill eleni, bydd peiriannau gamblo mewn siopau betio yn cael eu cyfyngu... fel pob lleoliad gamblo arall ar y stryd fawr.

"Bydd y newid hwn mewn deddfwriaeth yn golygu bod hyd at hanner yr holl siopau betio yng Nghymru yn cau a bod hyd at 1,000 o swyddi yn cael eu colli.

Ychwanegodd y gymdeithas: "Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda ni i helpu i liniaru'r effaith ar swyddi yn dilyn y newid hwn mewn deddfwriaeth."

'Targedu ardaloedd tlotach'

Mae Llywodraeth Cymru eisiau rhoi pŵer i'r cynghorau i'w gwneud yn anoddach i agor siopau betio oherwydd pryder bod gormod yn cael eu hagor mewn ardaloedd tlotach.

Yn ôl Dr Catherine Sharp o Brifysgol Bangor: "Mae'r dystiolaeth yn awgrymu, yn gyffredinol, fod yna fwy o ardaloedd siopau betio mewn ardaloedd mwy tlawd.

"Mae hyn yn bryder oherwydd rydym hefyd yn gwybod bod y niwed yn tueddu i fod yn uwch mewn ardaloedd tlawd nac mewn ardaloedd llai difreintiedig," meddai Dr Sharp.

Fel Cadeirydd Pwyllgor Iechyd y Cynulliad, mae AC Plaid Cymru, Dai Lloyd, yn gobeithio y gellir gwneud mwy i fynd i'r afael â phroblemau gamblo.

"'Da ni'n gweld y niwed trychinebus syn digwydd i deuluoedd. I unigolion, yn naturiol, ond i deuluoedd hefyd.

"Y dyledion anferthol, y diffyg hyder mewn pobl. Maen nhw'n mynd yn isel eu hysbryd a hefyd yn sâl iawn wrth boeni a phryderu am lle maen nhw am gael yr holl arian i dalu am eu dyledion.

"Mae'r peth yn broblem anferthol, gynyddol."