Â鶹ԼÅÄ

AS yn dweud bod angen adolygiad o beiriannau gamblo

  • Cyhoeddwyd
Peiriant

Mae Aelod Seneddol sy'n arwain ymchwiliad i beiriannau hap chwarae fixed odds wedi dweud wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru eu bod yn "beryglus".

Mae Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe, yn galw am adolygiad o'r peiriannau gamblo electronig, sydd i'w gweld mewn siopau betio ledled y wlad, gan lywodraeth y DU.

Mae'n dweud eu bod nhw yn dod â swm "syfrdanol" o arian i'r bwcis, ond fod y peiriannau yn gallu arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod pobl sy'n gaeth yn gallu colli miloedd o bunnau mewn un sesiwn.

"Mae'r peiriannau yma yn gallu cymryd £100 punt bob 20 eiliad: mae hynny'n £300 mewn munud," meddai.

"A tydi'r peiriant ddim yn rhoi cyfle i'r unigolyn i stopio a meddwl be' maen nhw'n wneud. Mae e mor sydyn, jyst pwyso botwm."

'Pla'r gymuned'

Mae peiriannau hap chwarae fixed odds wedi bod ar y stryd fawr ers dechrau'r mileniwm ac maen nhw'n dod â £7bn i'r diwydiant yn flynyddol, gan gynnwys £1.7bn o elw.

Mae rheolau'r llywodraeth yn cyfyngu'r nifer o beiriannau y gall cwmnïau eu gosod mewn siop i bedwar.

Ond mae beirniaid yn dweud fod hynny wedi arwain at glwstwr o siopau mewn trefi wrth i'r cwmnïau geisio cynyddu'r nifer o'r peiriannau ar y stryd fawr.

Disgrifiad,

Profiad un dyn oedd yn arfer bod yn gaeth i gamblo

Mae Ms Harris yn dweud fod y bwcis wedi agor mwy o siopau mewn ardaloedd difreintiedig, a bod y peiriannau wedi newid delwedd y diwydiant i'r cyhoedd.

"Pan oedd y bwcis yn cynnig rasio ceffylau a chŵn, roedden nhw'n rhan annatod o'r gymuned. Nawr nhw yw pla'r gymuned," meddai.

"Mae angen ailwampio ac adolygu'r peiriannau a dod o hyd i ateb fydd yn helpu i ddelio â'r problemau sy'n dod wedyn, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, prosesu arian anghyfreithlon a thrais, hyd yn oed os nad yw'r atebion yn mynd i blesio'r bwcis."

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi siarad gydag unigolion sy'n gaeth i gamblo sy'n disgrifio'r peiriannau fel "crac cocên" y diwydiant.

Mae awgrymiadau cryf fod Llywodraeth San Steffan ar fin cyhoeddi adolygiad o'r peiriannau.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd o'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: "Rydym yn parhau i fonitro effeithlonrwydd rheoliadau gamblo sy'n bodoli yn barod, ac fe fyddwn yn cymryd camau pellach os oes angen."

Dywedodd Malcolm George o Gymdeithas Bwcis Prydain bod y cwmnïau yn derbyn bod adolygiad gan y llywodraeth yn debygol.

"Am sawl rheswm, bydden ni'n croesawu dadl wedi'i seilio ar dystiolaeth," meddai.

"Mae'n hawdd iawn i'r lobi gwrth gamblo gyflwyno honiadau cryf, ond sy'n anghywir am y diwydiant.

"Mae'r peiriannau yma mewn siopau betio ers 15 mlynedd... Mae adolygiadau wedi digwydd o'r blaen a phan mae'r dystiolaeth yn cael ei gyflwyno i'r llywodraeth maen nhw'n dod i'r un canlyniad: mae'n gwbl gywir eu bod nhw yna."