Â鶹ԼÅÄ

'Oni'n teimlo'n frwnt': Profiad Cymraes o fod yn 'hostess'

  • Cyhoeddwyd
Sara
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Sara Manchipp deitl Miss Cymru yn 2011

Mae cyn Miss Cymru, Sara Manchipp, wedi trafod ei phrofiad hi o weithio fel croesaw-wraig (hostess) yn sgil honiadau bod menywod oedd yn gweithio mewn cinio elusen i ddynion yn Llundain ,

Dywedodd y gyn fodel o Bort Talbot ar , bod ymddygiad o'r fath wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd a phobl wedi bod yn "trio cuddio'r mater dan y carped".

"Mae fel petai'n cael ei ddisgwyl ond mae'n hollol anghywir i bobl feddwl bod hyn yn dderbyniol," meddai.

"Fi wedi cael lot o brofiadau fy hunan yn gwneud math o waith hostess pan o'n i'n mynd drwy'r brifysgol.

"Un o'r profiadau ges i oedd mynd i weithio yn Cheltenham fel hostess. Wnaethon nhw ddweud wrthon ni mae'n rhaid i chi wisgo heels, mae'n rhaid ichi wisgo ffrog neis a cholur.

"Wnaethon ni droi lan yn meddwl bod ni'n mynd i ddweud wrth bobl lle i fynd i eistedd a helpu i roi diodydd a bwyd mas.

"A dywedodd y fenyw oedd yn ei redeg 'Na, job chi heddiw ferched yw diddanu chwaraewyr pêl-droed'."

Pan ofynnodd Sara beth oedd hi'n ei feddwl wrth "diddanu" dywed iddi gael yr ateb "Jyst cer gyda nhw, cer i yfed gyda nhw, cer i feddwi gyda nhw."

"Oni'n teimlo'n rili rili anghyfforddus a phan oni'n cerdded o gwmpas roedd lot o ferched eraill o gwmniau gwahanol yna hefyd, i gyd wedi meddwi," meddai.

"Roedd y dynion, nid i gyd, ond eitha lot, yn dod lan i ni, cyffwrdd ni, rhoi breichiau drostyn ni, trio ein cusanu ni.

"Yn y nos, oedd rhaid inni fynd i 'stafell arall.

"O'n i'n eistedd er bwys ffrind, doedd y ddwy ohonyn ni ddim yn hoffi bod yna, yn teimlo'n rili anghyfforddus.

"Daeth dau chwaraewr pêl-droed lan aton ni, cymryd fy llaw i a hi a'u rhoi yn ei boced. Yn ei boced roedd lot o arian - clwmp mawr o £50au - ac roedd wedi dweud 'ti a ffrind ti a fi a ffrind fi yn y stafell yna am awr'.

"O'n i'n teimlo'n sic at fy mola i bod y dyn yna yn meddwl y maint yna ohonon ni, bod ni'n mynd i wneud hynny.

"Oni'n teimlo'n frwnt."

Cyfrifoldeb ar ddynion

Yn ôl Sara 'dyw hyn ddim yn digwydd drwy'r amser ond "yn fwy aml na mae pobl yn meddwl."

"O'n i lot yn ifancach bryd hynny a dyna ydi'r broblem fi'n credu.

"Os oedd wedi digwydd i fi nawr fydden i wedi dweud wrth y dyn yna lle i fynd ac wedi gadael y lle yn syth.

"Ond oherwydd mod i lot ifancach doedd dim digon o hyder gyda fi ac oni ddim yn gwybod beth oedd yn iawn, beth i'w ddisgwyl.

"A dyna'r broblem, mae lot o ferched ifanc yn mynd mewn i waith fel'na a phan mae'r dynion yn dod 'mlaen atyn nhw mae ganddyn nhw ormod o ofn i ddweud rhywbeth. Falle oherwydd bod nhw'n meddwl bod nhw ddim yn mynd i gael gwaith gyda'r cwmni yna eto, ddim moyn achosi trwbwl a dim digon o hyder gyda nhw."

Mae Sara hefyd yn credu bod cyfrifoldeb ar y bobl sy'n rhedeg digwyddiadau i ofalu bod y merched sy'n gweithio yn iawn a delio ag unrhyw un sydd yn ymddwyn yn amhriodol.

"Maen nhw'n ddigon hen i wybod na ddylen nhw drin menywod y ffordd yna... mae cyfrifoldeb ar y dynion yma i wybod yn well - nage pob dyn, mae'r rhan fwyaf yn ffantastig - ond y rhai sydd yn, ddyle nhw wybod yn well.

"Mae'n rhaid inni wneud esiampl o'r bobl sydd ddim yn byhafio'n dda a gwneud i ferched sy'n gweithio deimlo'n saff a ddim fel bod nhw'n cael eu herlid."