麻豆约拍

Nia M么n: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd
Nia M么nFfynhonnell y llun, Nia M么n

Mae Nia M么n yn byw yn y Bont-faen gyda'i g诺r a thri o blant oed cynradd. Mae'n gweithio ar raglen Cywain Menter a Busnes sy'n helpu cwmn茂au bwyd a diod o Gymru i dyfu. Mae Nia'n caru bwyta ac yn disgrifio bwyd fel 'bara menyn i fi a phopeth yn troi o gwmpas y pryd nesa.'

Gyda thri o blant ifanc, diffyg amser i goginio yw her pennaf Nia, felly beth sy' ar ei phl芒t heno?

Beth sy' i de heno?

Pizza cartref.

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Y plant - Efan, Martha a Tomos (sydd wedi gwneud eu toes a dewis eu toppings) a Jeremy'r g诺r.

Ffynhonnell y llun, Nia M么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tomos yn barod am pizza

Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu be' sy' i de?

Bod yn ddigon trefnus i wneud penderfyniad beth i'w gael rhwng jyglo gwaith, logistics, clybiau ar 么l ysgol a rhagbaratoi tynnu cig o'r oergell neu siopa! Hefyd gwneud rhywbeth fydd yn plesio pawb (ma' un ffysi) - felly gwneud y dewis rhwng ffrae neu bryd sy'n gwneud bywyd yn haws.

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Fajitas aroulade. Syml i'w coginio ond yn edrych yn drawiadol.

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

I'r plant - b卯ns ar dost efo caws drosto, neu 'Pizza tost' - tost efo sos coch a chaws a beth bynnag sydd ar gael ar ei ben! Oedolion - cyri Thai Delia Smith (cig/llysiau) efo tsili, nionyn a thun llaeth coconut, a nam pla - wastad yn y cwpwrdd.

Ffynhonnell y llun, Nia M么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Efan a Martha yn rolio'r toes

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Cyn cael plant o'n i'n coginio pob math o bethau fyddai'n cymryd oriau, gwneud pasta, gwneud bara naan, popeth o scratch... Does dim amser i bethau felly'n aml bellach - dim ond yn y gwyliau pan mae'n bwrw. Mae'r plant wrth eu bodd yn gwneud bara.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Cyri Thai, neu chips cartref Mam efo stecen Gymreig.

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Cyw i芒r o'r archfarchnad, wedi ei dyfu'n gyflym ac annaturiol.

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta / goginio?

Morfil yn Norwy; amser maith yn 么l pan yno ar wyliau mewn cwch bysgota!

Ffynhonnell y llun, Nia M么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Martha yn mwynhau'r pizza

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Tatws pum munud - signature dish Taid Talwrn. Ffrio nionyn a chig mochyn, ychwanegu d诺r a thatws - oedd o'n cymryd 20 munud i goginio go iawn, efo bara menyn.

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Prynwch gynnyrch a chynhwysion lleol da! (Dw i'n gweithio gyda chwmn茂au bwyd a diod gyda Cywain.)

Beth oedd dy hoff bryd o fwyd erioed?

Pryd yn Piedmont yn yr Eidal, mewn bwyty stafell ffrynt mewn pentref bychan, agorodd y bwyty i ni, ac roedd hi'n dymor trwffl gwyn gorau ers blynyddoedd. Pum cwrs anhygoel a thrwffl ar bob un - nefolaidd!

Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?

Wystrys - methu meddwl am lyncu! Nag yfed coffi.

Efallai o ddiddordeb