Â鶹ԼÅÄ

Brexit heb gytundeb: Airbus yn bygwth gadael y DU

  • Cyhoeddwyd
Airbus A380Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gwneuthurwyr awyrennau Airbus wedi rhybuddio y gall symud ei ffatrïoedd adeiladu adenydd allan o'r DU petai Brexit heb gytundeb.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Tom Enders, ei bod yn bosib y bydd raid iddynt "wneud penderfyniadau niweidiol iawn i'r DU" petai'r wlad yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Yn ôl Mr Enders, mae'n "warthus" nad yw busnesau yn gallu cynllunio ar gyfer Brexit.

Mae Airbus yn cyflogi 14,000 yn y DU.

Mae hynny'n cynnwys 6,000 o swyddi yn ei ffatri adeiladu adenydd ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

'Dinistrio' canrif o ddatblygiad

Dywedodd Mr Enders: "Plîs peidiwch â gwrando ar wallgofrwydd y Brexiteers sy'n dweud, am fod gennym ffatrïoedd mawr yma, na fyddwn yn symud ac y byddwn yma o hyd.

"Maen nhw'n anghywir."

Er nad oes modd i'r cwmni "godi a symud ein ffatrïoedd Prydeinig mawr i rannau eraill o'r byd yn syth bin", gall Airbus gael eu "gorfodi i ailgyfeirio buddsoddiadau'r dyfodol os bydd Brexit heb gytundeb".

"Credwch chi fi, mae yna ddigon o wledydd byddai wrth eu boddau yn adeiladu adenydd cerbyd Airbus," ychwanegodd Mr Enders.

"Mae Brexit yn bygwth dinistrio canrif o ddatblygiadau'n seiliedig ar addysg, ymchwil a chyfalaf dynol."

Mae aelodau seneddol yn cynnig opsiynau eraill i gynllun Brexit Theresa May, wedi iddo gael ei wrthod ganddynt mewn pleidlais yr wythnos diwethaf.

Dyddiad y DU i adael yr UE yw 29 Mawrth 2019.