Â鶹ԼÅÄ

Airbus: Guto Bebb yn beirniadu cyd-aelodau Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
Airbus A380Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae un o weinidogion Cymreig Llywodraeth y DU wedi ymosod ar aelodau blaenllaw o'i lywodraeth ei hun am eu hagweddau "diystyriol" tuag at fusnesau ynghylch Brexit.

Glynodd Guto Bebb at ei feirniadaeth o honiad Andrew RT Davies fod cwmni Airbus yn gor-ddweud y risg o golli swyddi os nad oedd cytundeb gyda'r UE.

Ddydd Gwener dywedodd ysgrifennydd iechyd y DU, Jeremy Hunt fod bygythiadau gan fusnesau dros Brexit yn "amhriodol".

Wnaeth Mr Bebb, sydd yn weinidog yn yr Adran Amddiffyn, ddim enwi Mr Hunt yn uniongyrchol ond dywedodd fod sylwadau o'r fath yn "annheilwng".

'Ymfflamychol'

Mae Airbus yn cyflogi tua 14,000 o bobl ar 25 safle gwahanol ar draws y DU, gan gynnwys oddeutu 6,000 yn eu ffatri adeiladu adenydd ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Ddydd Gwener fe wnaeth y cwmni rybuddio y bydden nhw'n os yw'r wlad yn gadael marchnad sengl ac undeb dollau'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Cafodd y rhybuddion hynny eu beirniadu gan Mr Davies, a ddywedodd bod Airbus yn "gwneud tro gwael â'r gweithwyr" wrth godi bwganod am symud.

Ond mynnodd Mr Bebb y dylai Mr Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ganolbwyntio ar gynrychioli Cymru yn hytrach nag aildanio ymgyrch y refferendwm.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Guto Bebb wedi herio hawl Mr Davies i gyfeirio at ei hun fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

"Mae agweddau diystyriol rhai aelodau blaenllaw o'r cabinet tuag at ein cymuned fusnes yn annheilwng ac ymfflamychol," meddai AS Aberconwy, sy'n rhan o'r un llywodraeth a Mr Hunt.

"Mae busnesau eisiau cytundeb da ac mae'r llywodraeth eisiau hynny hefyd. A yw dyheadau arweinyddol miliwnyddion yn bwysicach na'r angen i wrando ar gyflogwyr a gweithwyr y wlad?

"Efallai ei bod hi'n ddealladwy bod rhan allweddol o bwerdy economaidd gogledd ddwyrain Cymru'n gallu cael ei bychanu gan y rheiny â gweledigaeth Lundeinig, ond mae Andrew yn dyheu i siarad dros Gymru gyfan.

"Dylai wneud hynny yn hytrach nag ymladd ymgyrch a enillodd yn 2016."

Ar raglen Sunday Politics Wales ddydd Sul , gan ddweud fod ei safbwynt yn gyson ag un Llywodraeth y DU.

'Pryderon go iawn'

Yn NhÅ·'r Cyffredin ddydd Llun dywedodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU ei fod yn cymryd sylwadau Airbus "o ddifrif" am yr angen am gytundeb Brexit rhwng y DU a'r UE.

Roedd Greg Clarke yn ymateb i gwestiwn brys gan AC Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami, gan fod ffatri Airbus ym Mrychdyn wedi'i lleoli yn ei etholaeth.

Dywedodd Mr Tami fod pryderon y cwmni yn rhai "go iawn" a bod angen i Lywodraeth y DU "ddeffro a gwrando [i fusnesau] yn hytrach na pharhau i gecru".