Â鶹ԼÅÄ

Betty Campbell yn ennill pleidlais Merched Mawreddog

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Merched Mawreddog: Betty Campbell

Prifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, yw enillydd pleidlais Merched Mawreddog, sy'n golygu y bydd cerflun cyhoeddus ohoni yn cael ei godi yng Nghaerdydd.

Dyma fydd y cerflun cyntaf o fenyw benodol mewn lle cyhoeddus yn yr awyr agored yng Nghymru, a bydd yn cael ei godi yn y sgwâr sy'n rhan o ddatblygiad y Sgwâr Canolog.

Cafwyd miloedd o bleidleisiau gan y cyhoedd, ac fe gafodd y canlyniad ei gyhoeddi ar Â鶹ԼÅÄ Wales Today nos Wener.

Y pedair arall ar y rhestr fer oedd Elizabeth Andrews, Cranogwen, Elaine Morgan ac Arglwyddes Rhondda.

Yn ferch o ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd, dywedodd athrawes wrth Betty Campbell na allai merch ddu o ddosbarth gweithiol fyth freuddwydio am gyrraedd uchelfannau academaidd.

Ond profodd y rhai oedd yn amau ei gallu yn anghywir mewn ffordd gwbl ysbrydoledig.

Hi oedd y ferch gyntaf yng Nghymru heb fod yn wyn ei chroen i fod yn bennaeth ysgol a hyrwyddodd dreftadaeth amlddiwylliannol ei chenedl drwy gydol ei hoes.

Daeth ei hysgol yn dempled ledled y DU ar gyfer arfer da mewn addysg amlddiwylliannol ac fe aeth Betty ati i helpu sefydlu Mis Hanes Pobl Dduon, cyn parhau i ddylanwadu ar fywyd yng Nghymru drwy gyfres o benodiadau cyhoeddus.

Roedd y merched ar y rhestr yn cynrychioli ac yn cyfleu llwyddiannau, doniau a chyflawniadau merched yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Roedd y panel yn ystyried bod y pum menyw ar y rhestr fer yn enghreifftiau gwych o ddylanwad a chyfraniad menywod o Gymru mewn nifer o feysydd.

Dathlu 'cyfraniad cyfoethog'

Dywedodd Helen Molyneux o'r grŵp Monumental Welsh Women, sy'n arwain yr ymgyrch i godi'r cerflun: "Rydyn ni'n falch iawn fod cynifer o bobl wedi cymryd rhan yn y bleidlais a'i bod wedi ennyn cymaint o ddiddordeb.

"Byddwn ni'n mynd ati i gomisiynu artist i ddylunio a chreu'r cerflun, ac edrychwn ymlaen at ei ddadorchuddio yn 2020.

"Byddwn ni hefyd yn herio trefi a dinasoedd eraill yng Nghymru i ddilyn esiampl Caerdydd ac anrhydeddu eu merched mawreddog nhw."

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr Â鶹ԼÅÄ Cymru: "'Dan ni wrth ein bodd efo'r ymateb gwych i'r gyfres Merched Mawreddog.

"Mae'r prosiect cyfan wedi bod yn gyfle unigryw i ddathlu bywyd pum Cymraes eithriadol - a'u cyfraniad cyfoethog i'r byd."