Â鶹ԼÅÄ

Galw am gerflun i Betty Campbell yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Betty Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Bu Betty Campbell yn athrawes yn Ysgol Gynradd Mount Stuart am 28 mlynedd

Dylai cerflun o'r brifathrawes groenddu cyntaf yng Nghymru gael ei godi yng Nghaerdydd, yn ôl prif weithredwr Cyngor Hil Cymru.

Ddydd Gwener bu farw cyn-bennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart, , yn 82 oed.

Llwyddodd yn ei huchelgais i ddod yn bennaeth er i athrawes ddweud wrthi yn yr ysgol fod y freuddwyd honno'n un "anorchfygol".

Roedd Mrs Campbell yn gyn-gynghorydd yn ardal Tre-biwt y ddinas, a hefyd yn aelod o'r pwyllgor paratoi ar gyfer agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1998.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Uzo Iwobi wedi gweithio gyda Betty Campbell ac yn ei 'nabod yn dda

Bu'n aelod o'r Bwrdd Cysylltiadau Hil rhwng 1972 ac 1976, ac roedd hefyd yn llywodraethwr ar Â鶹ԼÅÄ Cymru rhwng 1980 ac 1984.

Dywedodd Uzo Iwobi wrth raglen Sunday Supplement Â鶹ԼÅÄ Radio Wales: "Roedd hi'n eicon i ni yn y mudiad hanes pobl dduon.

"Dim ond o'i chyfarfod hi roeddech chi'n teimlo fel eich bod yn dod i gysylltiad â hanes."

Ychwanegodd fod ei ffrind wedi "ysbrydoli cenedlaethau".

"Rydyn ni am ymgyrchu i gael cerflun o Betty wedi'i osod rhywle'n agos at Ganolfan y Mileniwm," meddai.

"Os oes unrhyw un yn haeddu cydnabyddiaeth yna Betty Campbell yw honno. Does dim dwywaith am hynny. Hi yw ein heicon, mae hi'n chwedl wnaiff fyth fynd yn angof."