Â鶹ԼÅÄ

Merched Mawreddog: Betty Campbell

  • Cyhoeddwyd

Wrth i bobl Cymru gael eu gwahodd i bleidleisio am y ferch Gymreig go iawn gyntaf i gael ei hanfarwoli fel cerflun yn yr awyr agored fel rhan o brosiect Merched Mawreddog, Cerys Matthews sy'n edrych ar gyfraniad pennaeth du cyntaf Cymru, Betty Campbell.

Mae modd pleidleisio dros bwy rydych chi'n credu yw'r fenyw ddylai gael ei hanfarwoli gyda cherflun cyhoeddus, a darganfod mwy amdanynt, ar wefanbbc.co.uk/merchedmawreddog.

Disgrifiad,

Merched Mawreddog: Betty Campbell

Betty Campbell - Pennaeth du cyntaf Cymru a hyrwyddwr amlddiwylliant

Ganwyd: Tre-biwt, Caerdydd, 1934

Marwolaeth: Tre-biwt, Caerdydd, 2017

Dyfyniad allweddol: "Yn ein ffordd unigryw ein hunain rydym yn sefydlu ardal lle nad yw crefydd na lliw o bwys - roeddem i gyd yn parchu ein gilydd fel pobl."

Dywedwyd wrth Betty Campbell na allai merch ddu o'r dosbarth gweithiol byth lwyddo, ond profodd bod yr amheuwyr hyn yn anghywir.

Daeth yn brifathrawes ddu gyntaf Cymru a bu'n hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol ei chenedl trwy gydol ei hoes. Nid yw'n syndod bod Nelson Mandela wedi gofyn am gwrdd â hi ar ei unig ymweliad â Chymru.

Ganed Betty yn Nhre-biwt, a chafodd ei magu yn nhlodi Tiger Bay. Cafodd ei mam drafferth cael dau ben llinyn ynghyd ar ôl marwolaeth ei thad yn yr Ail Ryfel Byd. Ond enillodd Betty ysgoloriaeth i ysgol yng Nghaerdydd lle'r oedd ei chyd-ddisgyblion bron i gyd yn ferched gwyn, dosbarth canol.

Roedd Betty yn hoff iawn o ddihangdod darllen - yn enwedig hanesion ysgolion preswyl merched Enid Blyton. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd Lady Margaret i Ferched yng Nghaerdydd gan ddod â'i breuddwydion o amgylchedd academaidd delfrydol o fewn cyrraedd.

Yma, roedd hi'n astudio ochr yn ochr â merched gwyn, dosbarth canol yn bennaf. Ond pan fynegodd Betty yr un uchelgais â'i chyd-ddisgyblion, cafodd ei llethu.

Roedd hi bob amser yn agos at frig y dosbarth ond pan ddywedodd Betty wrth ei phrifathrawes yr hoffai hi addysgu hefyd, yr ymateb a gafodd oedd: "O fy merch annwyl, byddai'r problemau'n anorchfygol."

Gwnaeth y geiriau hynny iddi lefain, ond fe wnaethant hi hyd yn oed yn fwy penderfynol o ddilyn ei breuddwyd.

"Es i yn ôl at fy nesg a chrio," cofiodd Campbell unwaith. "Dyna oedd y tro cyntaf erioed i mi grio yn yr ysgol. Ond fe wnaeth fi yn fwy penderfynol; roeddwn am fod yn athro rywsut neu'i gilydd."

Dathlu amrywiaeth

Goresgynnodd Betty anfanteision a hiliaeth er mwyn cyrraedd ei nod. Yn 1960 roedd hi'n un o chwe myfyrwraig yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd a oedd yn derbyn menywod am y tro cyntaf.

Pan ddaeth swydd ddysgu ar gael yn Nhre-biwt, roedd Betty yn teimlo bod hon yn berffaith iddi - ond roedd hi'n dal i wynebu gelyniaeth gan rai rhieni.

"Nid oeddent wedi gweld athro du o'r blaen," dywedodd. "Roedd fel pe gallech wneud swydd, ond os oeddech chi'n ddu nad oeddech chi mor dda."

Unwaith yn rhagor, fe brofodd ei gwerth trwy ddod yn brifathrawes - y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru.

Roedd hi wedi ennill ei lle mewn hanes. Ac yn awr roedd hi am i'w disgyblion wybod am eu hanes nhw.

Wedi'i hysbrydoli gan daith i America, lle dysgodd am hanes y gyn-gaethferch a'r ddiddymwraig Harriet Tubman, rhoddodd Betty ddiwylliant y bobl ddu ar ei chwricwlwm yng Nghaerdydd.

Mewn araith a wnaed ganddi yn ddiweddarach yn y Cynulliad Cenedlaethol, esboniodd: "Roeddwn yn benderfynol fy mod am fod yn un o'r bobl hynny oedd yn gwella'r ysbryd du, y diwylliant du cymaint ag y gallwn."

Roedd y plant yn dysgu am y cyfraniad cadarnhaol a wnaed i gymdeithas Prydain gan bobl o liw. Helpodd hefyd i greu Mis Hanes Pobl Dduon.

Fel yr eglurodd unwaith: "Edrychais ar hanes pobl dduon, y Caribî, Affrica a chaethwasiaeth a'r effeithiau. Roedd pobl a ddywedodd: 'Ni ddylech fod yn dysgu hynny.' Pam lai? Fe ddigwyddodd. Dylai plant gael gwybod."

Lledaenodd enwogrwydd Betty y tu hwnt i Gymru gan fod ei hysgol hi wedi dod yn dempled ar gyfer addysg amlddiwylliannol. Tyfodd ei dylanwad ar fywyd cyhoeddus pan ddaeth yn aelod o'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.

Roedd hi hefyd yn eiriolwr angerddol dros bobl Tre-biwt fel cynghorydd, wrth i'r gymuned wynebu newid sylweddol drwy ddatblygiad Bae Caerdydd.

Parhaodd i fod wedi ymrwymo i dreftadaeth Tre-biwt a phwysigrwydd amlddiwylliant drwy gydol ei bywyd: "Yn ein ffordd unigryw ein hunain rydym yn sefydlu ardal lle nad yw crefydd na lliw o bwys - roeddem i gyd yn parchu ein gilydd fel pobl."

Ni ymladdodd unrhyw un yn galetach i ddathlu amrywiaeth Cymru na Betty Campbell.