Â鶹ԼÅÄ

Merched Mawreddog: Proffil o Elizabeth Andrews

  • Cyhoeddwyd

Wrth i bobl Cymru gael eu gwahodd i bleidleisio am y ferch Gymreig go iawn gyntaf i gael ei hanfarwoli fel cerflun yn yr awyr agored fel rhan o brosiect Merched Mawreddog, Cerys Matthews sy'n edrych ar gyfraniad yr ymgyrchydd blaenllaw Elizabeth Andrews.

Mae modd pleidleisio dros bwy rydych chi'n credu yw'r fenyw ddylai gael ei hanfarwoli gyda cherflun cyhoeddus, a darganfod mwy amdanynt, ar wefan bbc.co.uk/merchedmawreddog.

Disgrifiad,

Merched Mawreddog: Elizabeth Campbell

Elizabeth Andrews - Hyrwyddwr hawliau merched a phlant

Ganwyd: Hirwaun 1882

Marwolaeth: Tonpentre 1960

Dyfyniad allweddol: "Dywedwyd wrthym pan oeddem yn ymgyrchu am y bleidlais - yn aml yn nawddoglyd iawn gan ddynion - mai lle'r merched oedd datblygu'r plentyn ar gyfer y byd. Ein hateb oedd, os mai ein lle ni oedd datblygu'r plentyn ar gyfer y byd, ein lle ni hefyd oedd datblygu'r byd i'r plentyn. A cyn y gallem wneud y naill neu'r llall, mae'n rhaid i ni ymddiddori mewn gwleidyddiaeth."

Roedd Elizabeth Andrews yn un o weithredwyr gwleidyddol benywaidd mwyaf dylanwadol Cymru yn nechrau'r 20fed ganrif. Roedd hi'n gydwladolwraig, yn etholfreinwraig ac yn sosialwraig.

Yn un o 11 o blant a anwyd i deulu glofaol tlawd, breuddwydiodd Elizabeth am fod yn athrawes ond fe'i gorfodwyd i adael yr ysgol yn 13 mlwydd oed er mwyn helpu ei rhieni i gael dau ben llinyn ynghyd.

Llwyddodd yr wniadwraig hon, a oedd yn siarad Cymraeg, i ddod ag anghenion menywod dosbarth gweithiol i'r arena wleidyddol. Gwnaeth hynny am ei bod hi'n rhannu'r un math o fywyd â nhw ac yn mynegi eu gobeithion a'u hofnau.

Symud i'r Rhondda yn 26 oed oedd y catalydd i ddeffroad gwleidyddol Elizabeth, a gwelodd y problemau cymdeithasol yn wynebu ei chymuned.

Fel trefnydd benywaidd cyntaf Plaid Lafur Cymru, sefydlodd adrannau a chynghorau cynghorol i fenywod, gan eu disgrifio fel "prifysgolion i fenywod sy'n gweithio". Hi hefyd oedd un o ynadon benywaidd cyntaf Prydain.

Ein Elizabeth

Rhoddodd anghenion menywod a phlant wrth wraidd ei hymgyrchoedd. Wrth roi tystiolaeth yn NhÅ·'r Arglwyddi i Gomisiwn Brenhinol ar y diwydiant glo ym 1919, siaradodd yn rymus am effaith y pyllau ar fywyd teuluol.

Fel gwraig i löwr, roedd hi'n gwybod pa mor beryglus oedd y diwydiant i'r dynion, ond pwysleisiodd fod bywydau menywod mewn perygl hefyd wrth iddynt ymdopi â thai gorlawn, iechyd gwael a chyfraddau marwolaeth uchel ymhlith eu plant.

Daeth yn ffigwr blaenllaw yn yr ymgyrch ar gyfer baddonau pen pwll, gan ddadlau y gallent helpu i drawsnewid bywydau merched drwy gael gwared ar y baw di-baid fyddai'r glowyr yn dod gyda nhw a'r perygl sylweddol o lusgo baddonau tun trwm o ddŵr berwedig o'r cartref.

Cafodd straen codi pwysau mor drwm effaith ddifrifol ar iechyd merched - yn enwedig yn ystod eu beichiogrwydd aml - tra bod nifer o blant yn cael eu sgaldio gan y dŵr berwedig. Roedd sychu dillad mewn ceginau cyfyng hefyd yn chwarae hafoc gydag iechyd plant hefyd.

Siaradodd Elizabeth ochr yn ochr â gwragedd dau o lowyr o Loegr yn Nhŷ'r Arglwyddi. Fe wnaeth gweld merched dosbarth gweithiol yn yr amgylchoedd dethol hyn ddal sylw'r cyfryngau, fel y bu iddi gofio yn ei hunangofiant 'A Woman's Work is Never Done':

"Ar ôl i ni gyrraedd Llundain roeddem dan warchae'r wasg yn y gwesty ac yn ystod y cyfnod yr oeddem yn rhoi tystiolaeth roedd pobl yn tynnu ein lluniau ac yn rhoi disgrifiad o'n ffrogiau.

"Roedd llawer o'r sylwadau personol yn ddoniol iawn i ni. Roedden nhw'n disgwyl i ni fod mewn parchedig ofn yn Ystafell Robing y Brenin yn Nhŷ'r Arglwyddi lle cynhaliwyd y Comisiwn. Fe wnaethon nhw hefyd fynegi eu syndod mewn perthynas â'n pwyll wrth roi tystiolaeth.

"Ond pam oedden nhw'n meddwl y bydden ni ag ofn? Roedd gennym rywbeth pwysig a difrifol iawn i ddweud wrthyn nhw am ferched yn dioddef ac yn marw a sut y byddai baddonau yn lleihau'r gwaith llafurus roedden nhw'n ei wneud."

Pwysig iawn yn wir. A chafodd ymgyrch Elizabeth effaith. Gwnaed baddonau pen pwll yn orfodol yn 1924.

Roedd hi wrth wraidd yr ymdrechion cynorthwyo pan gafodd y glowyr eu cloi allan yn dilyn y Streic Gyffredinol yn 1926 ac ym mlynyddoedd newynog y Dirwasgiad yn yr 1930au.

Ac yn yr amseroedd hynny cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, trodd Elizabeth ei sylw hefyd at wella gofal mamolaeth a gofal plant, gan sefydlu gwasanaeth clinigau, bydwragedd, ymwelwyr iechyd ac un o'r ysgolion meithrin cyntaf erioed yng Nghymru.

Ei harwyddair oedd "Addysgu, Cynhyrfu, Trefnu". Ac i'r cenedlaethau o fenywod y bu'n eu helpu a'u hysbrydoli, roedd hi'n adnabyddus yn syml iawn fel Ein Elizabeth.