Huw Jones: S4C wedi gwneud 'buddsoddiadau peryglus'

Ffynhonnell y llun, S4C

Mae cadeirydd awdurdod S4C wedi cyfaddef y dylai rhai o fuddsoddiadau masnachol y sianel fod wedi cael eu dirwyn i ben yn gynt.

Dywedodd Huw Jones wrth bwyllgor o Aelodau Seneddol bod "gormod o fuddsoddiadau newydd" wedi'u gwneud mewn mentrau o'r fath.

Yn ôl Mr Jones, y nod oedd gwneud rhagor o elw i'r sianel, ond mynnodd bod arian cyhoeddus "ddim wedi bod mewn perygl".

Fe wnaeth y darlledwr golli £3.27m wedi i Loteri Cymru fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

'Mentrau peryglus'

Cadarnhaodd Mr Jones bod y sianel hefyd wedi gwaredu ar fuddsoddiad yng nghwmni cyfryngau cymdeithasol Blurrt Media.

Fe wnaeth cangen fasnachol S4C gymryd 22% o siâr yn y cwmni yn 2014, ond ni wnaeth Mr Jones ddatgelu faint o arian roedd y sianel wedi'i fuddsoddi ynddo.

Mae S4C wedi ailstrwythuro'r adain fasnachol bellach, gan gynnwys penodi'r prif weithredwr Owen Evans i gadeirio bwrdd y corff.

Ffynhonnell y llun, Loteri Cymru

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth S4C golli mwy na £3m pan aeth Loteri Cymru i ddwylo'r gweinyddwyr

Fe wnaeth Mr Jones gydnabod bod y sianel wedi buddsoddi mewn "mentrau peryglus" mewn cyfnod ble roedd ei nawdd cyhoeddus yn wynebu "gostyngiad sylweddol".

Yn ymddangos o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd Mr Jones wrth ASau: "Yn edrych ar sut wnaeth pethau fynd yn eu blaenau rwy'n credu bod gormod o fuddsoddiadau gwahanol wedi'u gwneud.

"Roedd yna ormod o fuddsoddiadau'n cael eu gwneud mewn ardaloedd ble nad oedd gan S4C wybodaeth uniongyrchol.

"Ar ddiwedd y dydd byddai wedi bod yn gallach pe bai'r buddsoddiadau wedi cael eu dirwyn i ben yn gynt."

Disgrifiad o'r llun, Mynnodd Huw Jones bod "arian y trethdalwyr ddim wedi cael ei beryglu"

Mynnodd nad oedd hi'n "afresymol" i gefnogi cwmni nes eu bod yn "gofyn gormod".

Ychwanegodd Mr Jones: "Dyw arian y trethdalwyr ddim wedi cael ei beryglu yma.

"Bydd y prosesau mae Owen [Evans] wedi'u rhoi mewn lle yn ei gwneud yn fwy tebygol na fydd y peryglon yn parhau'n ddistaw am gyhyd."