Â鶹ԼÅÄ

S4C 'ddim i ailadrodd' methiant Loteri Cymru

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Bydd strategaeth fasnachol S4C yn canolbwyntio ar y diwydiant teledu a'r cyfryngau digidol yn y dyfodol, ar ôl methiant Loteri Cymru.

Wrth fynd o flaen pwyllgor diwylliant y Cynulliad, dywedodd y prif weithredwr Owen Evans ei fod am dargedu'r meysydd oedd yn gyfarwydd i'r sianel.

Fe gollodd braich fasnachol S4C, corff o'r enw SDML, dros £3.27m ar ôl i Loteri Cymru fynd i'r wal.

Aeth y gêm loteri i ddwylo'r gweinyddwyr fis Mawrth.

Roedd dros 10,000 o gwsmeriaid gydag arian yn eu cyfrifon ar y pryd, ond maen nhw bellach wedi'u trosglwyddo i gêm loteri newydd.

SDML oedd prif gefnogwr ariannol Loteri Cymru, ac roedd canlyniadau'r gemau yn cael eu darlledu ar S4C, ond fe fethodd y gêm a denu digon o gwsmeriaid.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Owen Evans bod angen cadw at y "math o bethau mae gan S4C arbenigedd ynddyn nhw"

Wrth iddo gael ei herio am strategaeth ddigidol S4C, dywedodd Mr Evans: "Dwi'n credu mai ym maes darlledu fydd y cyfleoedd masnachol gorau ar gyfer S4C yn y blynyddoedd i ddod.

"Yn y sector dosbarthu, y byd cynhyrchu, a'r math o bethau mae gan S4C arbenigedd ynddyn nhw."

Fe gafodd Mr Evans ei holi am golledion masnachol S4C yn dilyn methiant Loteri Cymru.

Colli dros £3m

"Rydym wedi colli ychydig yn fwy na £3m, a dyna ydy popeth," meddai.

"Fyddwn ni ddim yn colli mwy na hynny, sydd dal yn swm sylweddol. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein gweithgareddau masnachol mewn elw.

"Weithiau rydych chi'n ennill, ac weithiau'n colli. Dyma rywbeth [Loteri Cymru] fyddwn ni ddim yn ail-adrodd.

"Ond ydyn ni'n bwriadu troi ein cefnau ar fuddsoddiadau sydd â risg uchel yn y dyfodol? Sai'n credu, gan fod angen portffolio cytbwys, ac mae rhai o'r meysydd ry'n ni'n buddsoddi ynddyn nhw ar flaen y gad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Euryn Ogwen Williams wedi dweud bod S4C mewn sefyllfa "unigryw" i ddenu incwm masnachol o lwyfannau digidol

Mae pwyllgor diwylliant y Cynulliad yn ystyried adolygiad annibynnol Euryn Ogwen Williams o S4C ar ran Llywodraeth y DU, wnaeth nifer o argymhellion am gylch gwaith, ariannu a threfn llywodraethu'r sianel.

Yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor yr wythnos ddiwethaf dywedodd Mr Williams bod S4C mewn sefyllfa "unigryw" i ddenu incwm masnachol o lwyfannau digidol a gwasanaethau ffrydio fel Netflix.

Dywedodd Mr Evans fod y sianel wedi dechrau gweithredu argymhellion yr adolygiad yn barod.

'Diffyg hyder'

Fe glywodd y pwyllgor hefyd gan Simon Curtis, pennaeth undeb yr actorion yng Nghymru, Equity.

Dywedodd bod "diffyg hyder" ynghylch hyrwyddo fersiynau Cymraeg y dramâu mae S4C wedi cynhyrchu ar y cyd gyda'r Â鶹ԼÅÄ.

"Dwi ond yn gallu dibynnu ar yr hyn dwi wedi gweld gyda'r rhaglenni sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y blynyddoedd diwethaf," meddai Mr Curtis.

"Ond yn y bôn, y fersiynau Saesneg o'r rhaglenni hynny sydd wedi cael eu gwerthu. Dwi'n credu bod hyn yn cyfateb i ddiffyg hyder.

"Fe fyddai hi wedi bod yn grêt petai fersiwn Gymraeg y ddrama Keeping Faith [Un Bore Mercher] wedi ymddangos ar y rhwydwaith, gydag isdeitlau, os oedd yr hyder yn bodoli.

"Mae yna deimlad bod angen i'r ddrama fod ar gael yn y ddwy iaith, os yw'n mynd i lwyddo yn fasnachol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Curtis bod angen cael yr hyder i geisio gwerthu dramâu fel Un Bore Mercher yn y Gymraeg

Ychwanegodd Mr Curtis bod dramâu o Sgandinafia yn cadw at ieithoedd gwreiddiol y cyfresi.

"Dydyn nhw ddim yn cynhyrchu fersiynau Saesneg er mwyn eu gwerthu tramor," meddai.

"Mae'r ffydd ganddyn nhw, a'r hyder i ddweud 'dyma'r ddrama, dyma'r iaith mae wedi'i chynhyrchu ynddi, dyma'r iaith y cafodd ei chomisiynu ynddi, ac o ganlyniad dyma'r iaith y byddwch chi'n gwylio ynddi'.

"Mae 'na deimlad yn bodoli eich bod yn mynd i golli cynulleidfa trwy ddangos rhywbeth gydag isdeitlau ar y rhwydwaith am 21:00 ar nos Iau.

"Ond mae pethau yn newid, ry'n ni wedi gweld y newid yn dechrau, ond efallai bod angen mwy o newid."