Â鶹ԼÅÄ

'Amser yn brin' i baratoi ar gyfer gadael heb gytundeb

  • Cyhoeddwyd
David Rees
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Rees ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn "cynyddu'r ymdrechion' i baratoi y gwasanaeth iechyd ar gyfer Brexit

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru "gynyddu'r ymdrechion" i baratoi y gwasanaeth iechyd ar gyfer Brexit, yn ôl grŵp o ACau.

Mae pwyllgor Brexit y cynulliad wedi clywed bod "amser yn prinhau" i baratoi ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y gallai senario heb gytundeb fod yn "drychinebus" i'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r DU fod i adael yr UE ym Mawrth 2019.

Hwn yw'r adroddiad diweddaraf i asesu a yw Cymru yn barod ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE - yn gynharach eleni cafodd asesiad ei wneud ar yr effaith ar borthladdoedd Cymru.

Mae'r pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan arbenigwyr y gwasanaeth iechyd - gan gynnwys meddygon a nyrsys.

Ond mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn rhybuddio nad "oes digon o amser ar ôl" i ddelio â'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bryderon y bydd yna oedi cyn i gyffuriau newydd gyrraedd Prydain

Mae Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb ymadael gyda Brwsel ond mae'r cytundeb wedi wynebu cryn wrthwynebiad yn San Steffan a dyw e ddim yn debygol o gael cefnogaeth y mwyafrif o ASau yn y bleidlais wythnos nesaf.

Mae Theresa May yn rhybuddio mai'r unig ddewis arall yw gadael yr UE heb gytundeb.

Eisoes mae gweinidogion Brexit y DU wedi annog cwmnïau fferyllyddol i archebu cyflenwad chwe wythnos o feddyginiaethau.

Clywodd pwyllgor y cynulliad bod 45 miliwn o becynnau moddion i gleifion yn symud o'r DU i'r EU bob mis ac y mae 37 miliwn yn symud i'r cyfeiriad arall.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys wrth ACau: "Wedi Brexit mae'n bosib y bydd y DU yn ei chael hi'n fwy anodd dod o hyd i feddyginiaethau - yn enwedig os y byddwn yn creu fframweithiau gwahanol i'r hyn sy'n cael ei orchymyn gan reolau Ewrop.

"Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i gleifion aros cyn cael cyffuriau newydd ac fe allai hynny fod yn niweidiol."

'Effaith andwyol ar staffio'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor David Rees: "Mae'r cyflenwad helaeth o feddyginiaethau sy'n mynd i'r naill gyfeiriad a'r llall a'r ffaith y bydd yna oedi posib i gael cyffuriau wedi'n hargyhoeddi bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gael cynlluniau er mwyn atal hyn rhag digwydd."

Mae yna bryderon hefyd am effaith posib Brexit ar staffio'r Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl BMA Cymru: "Bydd y gostyngiad yn nifer y meddygon sy'n dod i Brydain a'r cynnydd yn y nifer sy'n gadael y DU oherwydd Brexit yn cael effaith andwyol ar staffio'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ar draws y DU."

Dywedodd Mr Rees: "Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r ymdrechion i baratoi y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar gyfer Brexit."

'Trychinebus'

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, gallai Brexit heb gytundeb fod yn "drychinebus i wasanaethau iechyd a chymdeithasol Cymru".

"Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cyflenwad o feddyginiaethau ac maent wedi cytuno gyda diwydiant fferyllyddol y DU y byddant yn cadw chwe wythnos yn fwy o stoc yn y DU," meddai.

"Fodd bynnag, mae sicrhau llif cyson o gyflenwadau yn angenrheidiol i nifer o bobl sy'n dibynnu ar feddyginiaethau ac fe fyddwn yn pwyso ar lywodraeth y DU i wneud yn siŵr fod cwmnïau yn gweithredu'r cynlluniau.

"Byddwn yn ymateb i adroddiad y pwyllgor maes o law."