Â鶹ԼÅÄ

Cytundeb Brexit: 'Rhai amheuon' gan Alun Cairns

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Cairns yn disgwyl i'r mwyafrif o ASau bleidleisio o blaid cytundeb Brexit y prif weinidog

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyfaddef fod ganddo rai amheuon ynglŷn â chytundeb Brexit Llywodraeth y DU.

Dywedodd Alun Cairns nad oedd yn hoffi'r opsiwn backstop - polisi yswiriant er mwyn sicrhau na fydd ffin galed yn Iwerddon os nad oes cytundeb fasnach gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Ond ychwanegodd fod cyfaddawdu wedi bod er mwyn sicrhau "pecyn da iawn".

Mae Mr Cairns nawr yn disgwyl i ASau gefnogi'r cytundeb pan fydd pleidlais yn San Steffan.

Mae'r prif weinidog Theresa May eisoes wedi dweud mewn cyfweliad radio â'r Â鶹ԼÅÄ yn gynharach nad oes modd i'r DU gael "cytundeb gwell" os yw ASau yn gwrthod cefnogi'r drafft presennol.

'Cyfaddawdu'

Dywedodd Mr Cairns wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Dydw i ddim yn hoffi pob elfen o'r ddogfen yma oherwydd rydym wedi gorfod cyfaddawdu - mae'n rhaid i ni. Dyna natur y trafodaethau sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Ond dwi'n edrych ar y cyd-destun yn llawn. Mae hwn yn becyn da iawn fydd o fudd i economi Cymru ac economi'r DU.

"Byddai'n well gen i os na fyddai'r backstop yno, ond ni fyddai modd i ni fod wedi cael y pecyn masnach os nad oedd y backstop yno.

"Felly dwi'n barod i dderbyn pecyn masnach gyda'r UE a derbyn cost y backstop."

'Edmygu'r cytundeb'

Er gwaethaf beirniadaeth o'r cytundeb Brexit gan bob plaid, mae Mr Cairns yn disgwyl i'r mwyafrif o ASau bleidleisio o'i blaid yn San Steffan.

Mae'n credu bydd y Senedd yn cytuno fod y cytundeb yn well na'r opsiynau eraill - gadael yr UE heb gytundeb, neu aros o fewn yr UE.

"Pan fydden nhw'n gweld beth mae'r cytundeb yma yn ei wneud, yna dwi'n credu bydd pobl yn ei dderbyn," meddai.

Fe wnaeth Mr Cairns hefyd ganmol "gwytnwch a pha mor benderfynol yw'r prif weinidog o gael cytundeb sy'n gweithio i bob rhan o'r wlad, yn ogystal â thrio dod â'r wlad at ei gilydd.

"Y realiti yw, os fyddai'r prif weinidog wedi cyflawni'r hyn oedd cefnogwyr Brexit caled eisiau, neu'r rhai oedd eisiau aros o fewn y UE ac anwybyddu canlyniad y refferendwm, ni fyddai'r wlad wedi dod at ei gilydd.

"Dwi'n credu y dylai pawb edmygu'r cytundeb sydd o'n blaenau, beth mae'n ei addo, fod cymaint mwy i bawb a dyna pam dwi'n credu bydd y wlad yn cefnogi'r prif weinidog."