Awgrymu sefydlu amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gareth Bale yn arwain y dathliadau wedi'r fuddugoliaeth dros Wlad Belg yn Euro 2016

Mae astudiaeth ddichonoldeb wedi awgrymu y dylid creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol newydd i Gymru yn Wrecsam.

Ond mae adroddiad arall wedi dod i'r casgliad y dylai oriel genedlaethol o gelf cyfoes gael ei rhannu rhwng safleoedd presennol o amgylch y wlad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau ddarn ymchwil, oedd yn ystyried yr achos ar gyfer amgueddfa chwaraeon a galeri newydd.

Mae'r llywodraeth eto i benderfynu a fyddan nhw'n derbyn yr argymhellion.

Cafodd yr astudiaethau dichonoldeb eu comisiynu fel amod o gefnogaeth Plaid Cymru i gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2017.

'Cartref ysbrydol' pêl-droed Cymru

Mae'r adroddiad yn amcangyfrif y byddai'n costio £4.4m i greu'r amgueddfa bêl-droed, a byddai hynny'n cynnwys ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam.

Ar ben hynny byddai angen cyfraniad blynyddol o tua £144,500 gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau rhedeg yr amgueddfa.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Awgrym yr adroddiad yw ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam i greu'r amgueddfa bêl-droed

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu creu panel o arbenigwyr i wella'r gydnabyddiaeth o hanes y Cymry ym myd chwaraeon.

Mae'r awduron yn amcangyfrif y byddai tua 80,000 o bobl yn ymweld â'r amgueddfa bêl-droed pob blwyddyn, ac y byddai Wrecsam yn lleoliad addas iddi fel "cartref ysbrydol" pêl-droed Cymru.

Rhwng £50m a £180m

Yn ôl yr adroddiad arall, ni ddylid defnyddio un adeilad penodol ar gyfer oriel o gelf cyfoes, ac yn hytrach dylid comisiynu 50 darn o waith celfyddyd fyddai'n cael eu gosod mewn safleoedd ledled Cymru.

Yn ail ran y cynllun byddai'r galeri yn defnyddio rhwng chwech ac wyth o safleoedd presennol ar draws y wlad ar gyfer arddangosfeydd.

Yn ôl yr adroddiad byddai'r brand - Oriel Genedlaethol o Gelf Cyfoes Cymru - yn cael ei ddefnyddio fel enw ar y sefydliadau sy'n cymryd rhan, yn hytrach nag un adeilad.

Ychwanegodd, mewn amser, y dylid adeiladu pencadlys ar gyfer y galeri.

Mae'r adroddiad yn amcangyfrif y byddai tair rhan y cynllun yn costio unrhyw le rhwng £50m a £180m.

Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod yr awgrymiadau ar 27 Tachwedd, ond dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cadarnhau pryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.