Â鶹ԼÅÄ

Amgueddfa Wrecsam yn chwilio am fedal glöwr

  • Cyhoeddwyd
Goroeswyr trychineb GresfforddFfynhonnell y llun, Amgueddfa Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddwyd medal i John Edward Samuel (ar y dde yn y rhes gefn) wedi trychineb Gresffordd

Mae Amgueddfa Wrecsam yn apelio am wybodaeth am fedal gafodd ei rhoi i löwr wedi trychineb Gresffordd.

Mae hi'n 80 mlynedd eleni ers y trychineb ac mae'r amgueddfa yn trefnu arddangosfa arbennig i nodi'r pen-blwydd.

Dywedodd Jonathan Gammond, Swyddog Dehongli yng Ngwasanaeth Treftadaeth Wrecsam, y byddai'n wych petai'r fedal yn rhan o'r arddangosfa.

"Cyn belled ag yr wyf yn ymwybodol dyma'r unig Fedal Edward a roddwyd i löwr o faes glo yng ngogledd Cymru ac o ganlyniad mae'n rhan o hanes mwyngloddio'r ardal," meddai.

Ffrwydrad

Roedd y Fedal Edward yn cael ei rhoi i gydnabod gweithredoedd o ddewrder gan lowyr a chwarelwyr oedd wedi peryglu eu bywydau i achub cyd-weithwyr.

Cafodd y fedal ei rhoi i John Edward Samuel, un o'r chwech o ddynion a lwyddodd i ddianc o drychineb Gresffordd.

Digwyddodd trychineb Gresffordd ar yr 22ain o Fedi, 1934, pan fu farw 266 o lowyr mewn ffrwydrad enfawr o dan ddaear.

Mewn adroddiad yn dilyn y trychineb gan Syr Henry Walker, Prif Arolygydd Fwyngloddiau, cafodd dewrder John Edward Samuel ei ganmol. Roedd y ddogfen yn dweud ei fod wedi "arddangos rhinweddau arweinyddiaeth mewn sefyllfa arswydus".

Roedd Mr Samuel wedi symud i Beer yn Nyfnaint lle gweithiodd fel garddwr wedi'r trychineb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol