Â鶹ԼÅÄ

Staff Cwmni Da yn cefnogi derbyn perchnogaeth y cwmni

  • Cyhoeddwyd
Staff Cwmni DaFfynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 50 o staff yn gweithio i Cwmni Da, sydd wedi'i leoli yn Noc Fictoria, Caernarfon

Mae staff cwmni teledu wedi cytuno'n unfrydol i alluogi'r perchennog i drosglwyddo'r berchnogaeth iddyn nhw.

Cyhoeddodd Dylan Huws, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Da, ym mis Hydref eleni ei fod am droi'r cwmni yn Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth y Gweithwyr.

Mewn diwrnod wybodaeth i staff yn Noc Fictoria, Caernarfon, cafodd y gweithlu gyfle i drafod a holi ymhellach am y cynlluniau.

Yn ôl cynhyrchydd sy'n gweithio i Gwmni Da, mae gweld y cwmni'n aros yn nwylo'r staff yn ffordd o gadw'r busnes yn yr ardal leol.

Wrth drosglwyddo'r berchnogaeth i'r gweithlu, bydd arbenigwyr o Ganolfan Cydweithredol Cymru yn rheoli'r prosiect, gyda chwmni Geldards o Gaerdydd yn cynnig cyngor cyfreithiol.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Huws yw unig berchennog Cwmni Da ers i'w gyd-sylfaenwyr Neville Hughes ac Ifor ap Glyn benderfynu rhoi'r gorau iddi fis Rhagfyr diwethaf

Bydd gwerth masnachol Cwmni Da yn cael ei asesu gan gyrff annibynnol, a bydd Mr Huws yn gwerthu ei gyfranddaliadau i'r ymddiriedolaeth sy'n cael ei sefydlu ar gyfer staff y cwmni.

Yn ôl rheolwr sector breifat y Ganolfan Gydweithredol, Paul Cantrill, bydd y fenter yn "helpu gwarchod a rhoi sylfaen i dwf yn y dyfodol i gwmni Cymreig pwysig".

Dywedodd Mr Cantrill: "Mae'r ystadegau i gyd yn dangos bod cwmnïau sydd wedi eu perchen gan eu staff yn perfformio'n well na chwmnïau nad ydynt yn cael eu perchen gan staff.

"Mi ddylai hynny gynnig hyder i dîm Cwmni Da ar gyfer y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Rick Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynhyrchydd a'r awdur Angharad Elen wedi cael ei phenodi'n un o gynrychiolwyr yr ymddiriedolaeth

Cafodd y cynhyrchydd a'r awdur Angharad Elen ei phenodi'n un o gynrychiolwyr yr ymddiriedolaeth sy'n gofalu am fuddiannau'r staff.

"Mae'n llawer gwell gen i weld rhywbeth fel 'ma yn digwydd i Gwmni Da a bod y cwmni'n aros yn lleol a bod ei werthoedd yn aros yr un fath," meddai.

"Mae'n bwysig bod Cwmni Da yn cadw'i hunaniaeth, yr hyn sy'n unigryw iddo, a dwi'n credu bod hyn yn ffordd dda o sicrhau hynny."

'Hwb pellach i lwyddo'

Dywedodd Mr Huws ei fod yn galonogol gweld cymaint o frwdfrydedd ac ymateb positif wrth drafod y fenter gyda staff.

"Ond mae angen i Gwmni Da redeg yn ôl yr arfer, ac mae angen i ni ffocysu ar ein gwaith o ddydd i ddydd mewn amgylchedd heriol," meddai.

"Bydd y ffaith fod pobl yn teimlo eu bod yn berchen ar yr hyn maen nhw'n ei wneud yn rhoi hwb pellach iddynt i lwyddo ymhellach yn y dyfodol."

Ychwanegodd Mr Huws ei fod yn bwriadu aros i weithio a "chynnig arweiniad a sefydlogrwydd" wedi iddo drosglwyddo perchnogaeth y cwmni i'w staff.

"Mae hyn yn broses, nid yn ddigwyddiad. Y staff yw'r bobl dalentog sy'n gyrru Cwmni Da, ac mi fydd y dyfodol yn eu dwylo nhw."