Â鶹ԼÅÄ

Staff i gael perchnogaeth cwmni teledu

  • Cyhoeddwyd
Dylan HuwsFfynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Huws ydy un o sylfaenwyr Cwmni Da, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon

Mae pennaeth un o gwmnïau teledu annibynnol mwyaf Cymru yn bwriadu trosglwyddo'r berchnogaeth i'w staff.

Mae Dylan Huws, rheolwr gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu Cwmni Da yng Nghaernarfon, yn bwriadu troi'r cwmni sydd â throsiant o £5m y flwyddyn, yn 'Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth y Gweithwyr'.

Yn ôl y cwmni dyma fyddai'r symudiad "cyntaf o'i fath yn y diwydiant darlledu yn y Deyrnas Unedig", ac y byddai gweithwyr yn gallu ennill bron i £4,000 yn ddi-dreth.

Mae'r cwmni, a gafodd ei sefydlu yn 1996, yn cyflogi 50 o staff yn eu canolfan yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon, yn ogystal â staff llawrydd.

Ymhlith cynyrchiadau'r cwmni mae Fferm Ffactor, Noson Lawen, Deian a Loli, Dim Byd, a Ffit Cymru.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y cwmni 50 o staff yng Nghaernarfon a rhyddgyfranwyr o bob cwr o Gymru yn gweithio iddyn nhw

Ers mis Rhagfyr diwethaf Mr Huws ydy unig berchennog y cwmni ar ôl i'w gyd-gyfarwyddwyr Neville Hughes ac Ifor ap Glyn benderfynu camu i lawr.

Bydd Mr Huws, 59 oed, yn gwerthu ei gyfranddaliadau i'r ymddiriedolaeth.

Dywedodd: "Roeddwn i'n ymwybodol ei bod hi bellach yn amser paratoi'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf a'r cam cyffrous nesaf yn stori'r cwmni.

"Roeddwn hefyd eisiau sicrhau bod Cwmni Da yn aros yn nwylo'r staff sydd wedi cyfrannu cymaint at ei lwyddiant, a bydd yn sicrhau bod y cwmni'n parhau dan reolaeth Cymry lleol."

Bydd Mr Huws yn parhau fel rheolwr gyfarwyddwr am dair blynedd tra bydd y trosglwyddiad yn cael ei gwblhau.