Â鶹ԼÅÄ

Datgelu cynlluniau gorsaf fysiau Caerdydd yn fuan

  • Cyhoeddwyd
Cynlluniau gorsaf fysiau newydd CaerdyddFfynhonnell y llun, Rightacres
Disgrifiad o’r llun,

Cynlluniau yn dangos sut y gallai gorsaf fysiau newydd Caerdydd edrych

Bydd y cynlluniau ar gyfer gorsaf ganolog Caerdydd yn cael eu datgelu yng Ngorffennaf, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law y Â鶹ԼÅÄ.

Cafodd yr hen orsaf ei chau a'i dymchwel yn 2015 er mwyn gwneud lle i gartref newydd y Â鶹ԼÅÄ yn y Sgwâr Ganolog.

Dywedodd arweinydd newydd y cyngor, Huw Thomas y bydd y cynlluniau ar gyfer yr orsaf fysiau yn cael eu trafod yn gynt na'r disgwyl wrth i gynlluniau newydd gael eu cyflwyno i'r cabinet.

Daw'r cyhoeddiad wrth i raglen Week In, Week Out Â鶹ԼÅÄ Cymru ofyn sut y bydd Caerdydd yn ymdopi gyda 80,000 yn rhagor o bobl yn y brifddinas yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.

"Bydd y cyfan yn cael ei ddatgelu ym mis Gorffennaf wrth i ni drafod y cynlluniau yn gynt, byddwn yn darparu gorsaf bysiau o fewn fy ngweinyddiaeth i," meddai Mr Thomas.

Ffynhonnell y llun, iStock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas yn dweud y bydd cynlluniau ar gyfer yr orsaf yn cael eu trafod yn fuan

Mae gweinyddiaeth y cyngor presennol fod i bara pedair blynedd ond mae Mr Thomas yn mynnu nad dyna'r amserlen ar gyfer cwblhau yr orsaf newydd.

Pwysleisiodd y bydd y cyfnod yn llai na hynny.

'Cyfrifoldeb'

Yn y gorffennol mae'r cyngor wedi wynebu beirniadaeth am ganiatáu i'r hen orsaf gael ei dymchwel cyn cwblhau y cytundeb gyda'r datblygwyr, Rightacres.

Cafodd y cynlluniau ar gyfer yr orsaf eu cyflwyno i'r cyngor ym mis Chwefror ond fe gafodd y penderfyniad ei ohirio oherwydd yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Roedd y cynlluniau hynny yn cynnwys 14 stand, 500 gofod ar gyfer beiciau ac unedau mân-werthu.

Dywedodd Paul McCarthy, prif weithredwr Rightacres wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Ni wastad wedi dweud na fydd y math yma o ddatblygiad yn amharu ar ein gallu i ddarparu gorsaf fysiau.

"Ac fe fydd gorsaf fysiau yn dod. Roedd gorsaf yn rhan o'n cyflwyniad fel datblygwyr ac mae'n gyfrifoldeb arnon ni i gael gorsaf."

Ffynhonnell y llun, Rightacres
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Sgwâr Ganolog Caerdydd yn y dyfodol

Wrth i Gaerdydd ehangu, mae cynllun datblygu'r ddinas yn dweud y bydd angen codi 41,000 o dai yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, llawer o'r rheiny ar gyrion y ddinas.

Bydd datblygiad Plasdwr, er enghraifft, yn cynnwys 7,000 o dai a fydd yn cael eu codi gan Redrow yng ngogledd orllewin Caerdydd, ac mae disgwyl i'r datblygwr dalu £28m ar gyfer gwella rhwydweithiau trafnidiaeth bysiau a beiciau.

Mae Roger Tanner o Gymdeithas Ddinesig Caerdydd yn ofni nad yw'r arian yn ddigonol: "Dyw pobl ddim yn hoffi teithio ar fws os nag oes rhaid iddyn nhw.

"Fydd pobl ond yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw'n well na char, neu os yw'r pris yn rhesymol neu yn rhwydd i'w gyrraedd - does 'na un o'r rhain yn wir am yr ardal hon."

Mae'n ofni y bydd datblygiad Plasdwr yn arwain at "5,000 o siwrneiau car ychwanegol" ar ffyrdd sydd eisoes yn brysur.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Roger Tanner yn ofni y bydd strydoedd Caerdydd yn orlawn

Ond mae arweinydd y cyngor yn dweud ei fod yn ffyddiog y bydd pobl yn newid eu ffyrdd o deithio.

Dywedodd ei fod am weld rhaniad cyfartal rhwng y defnydd o geir a theithio ar fws, beic neu gerdded.

"Beth sy'n bwysig yw buddsoddi yn ddoeth fel bod dewis ar gael i bobl."

  • Week In Week Out: Â鶹ԼÅÄ One Wales am 22:40 nos Fawrth, 27 Mehefin