Cyfres yr Hydref: Cymru 21-10 Yr Alban

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, George North, Luke Morgan a Gareth Anscombe yn dathlu cais Jonathan Davies

Roedd yna fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm y Principality yng ngêm gyntaf Cyfres yr Hydref.

Sgoriwyd cais yr un gan George North a Jonathan Davies, gyda Leigh Halfpenny hefyd yn cicio 11 pwynt i arwain y tîm i fuddugoliaeth.

Ymatebodd Yr Alban gyda chais gan y capten Stuart McInally, ond roedden nhw'n euog o amddiffyn gwan a diffyg disgyblaeth.

Mae Cymru wedi llwyddo i ennill 10 gwaith yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd - record sy'n dyddio'n ôl i 2002.