Â鶹ԼÅÄ

Cymru v Alban: Treialu parth di-alcohol yn y stadiwm

  • Cyhoeddwyd
cwrw
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae modd yfed alcohol yn yr eisteddle unrhyw bryd wrth wylio gemau

Am y tro cyntaf erioed bydd parth di-alcohol yn Stadiwm y Principality ar gyfer gêm rygbi rhyngwladol wrth i Gymru baratoi i wynebu'r Alban yng Nghyfres yr Hydref.

Bydd ail lawr eisteddle'r gogledd yn ddi-alcohol, gyda swyddogion y stadiwm yn rhybuddio cefnogwyr am bwysigrwydd cyrraedd yn gynnar ar gyfer y gêm.

Mae modd mynd fewn i'r stadiwm dair awr cyn y gic gyntaf sydd am 14:45 ac fe ddylai cefnogwyr ddisgwyl mesurau diogelwch llym cyn cael mynediad.

Mae'r giatiau ar agor 90 munud yn gynt na'r arfer, ac yn ôl rheolwr y stadiwm, Mark Williams, mae hynny er mwyn "hwyluso gwaith y stiwardiaid i brosesu cefnogwyr yn ddiogel".

'Profiad gorau i gefnogwyr'

Yn ôl Martyn Phillips o Undeb Rygbi Cymru, fe fydd y parth di-alcohol yn cael ei dreialu am bedair gêm, yn dilyn y galw amdano gan rai cefnogwyr.

"Rydym eisiau i Stadiwm y Principality gynnig y profiad gorau i gefnogwyr ac rydym yn gwybod bod hynny'n golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl.

"Fe fydd y cynllun yma'n cael ei dreialu am bedair gêm a byddwn yn gwrando ar gefnogwyr cyn penderfynu sut i esblygu'r syniad yma," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd i gefnogwyr gael mynediad i'r stadiwm dair awr cyn y gic gyntaf

Bydd ffyrdd canol y ddinas i gyd ar gau o 11:15 hyd at 17:45. Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Giât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug;

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth;

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment);

  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr);

  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair;

  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat);

  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Mae Network Rail yn rhoi gwybod i gwsmeriaid nad oes gwaith peirianneg wedi'i gynllunio yng Nghymru, felly ni ddisgwylir tarfu ar y llinell rhwng Llundain a Chaerdydd.

Bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones fydd yn arwain Cymru allan yn erbyn yr Alban

Mae dau enw newydd yn y tîm o 23 sydd wedi'i enwi gan Gymru gyda Luke Morgan yn dechrau'r gêm ar yr asgell tra bod y maswr, Jarrod Evans yn dechrau ar y fainc.

Alun Wyn Jones fydd y capten, ac yn absenoldeb Dan Biggar a Rhys Patchell fe fydd Gareth Anscombe yn dechrau yn safle'r maswr.

Tîm Cymru v Yr Alban:

Olwyr:

Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Luke Morgan, Gareth Anscombe, Gareth Davies;

Blaenwyr:

Nicky Smith, Ken Owens, Dillon Lewis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capten), Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion:

Elliot Dee, Rob Evans, Leon Brown, Adam Beard, Aaron Wainwright, Tomos Williams, Jarrod Evans, Steff Evans.