Â鶹ԼÅÄ

Agor y bleidlais i ethol Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
senedd

Mae'r bleidlais yn agor ddydd Llun i ethol aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae 480 o ymgeiswyr ifanc yn ymgiprys am 40 o seddi, ac mae'r bleidlais electroneg yn cau ar 25 Tachwedd.

Mae'n rhaid cofrestru cyn 16 Tachwedd i gael bwrw pleidlais, ac mae 13,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed eisoes wedi gwneud hynny.

Bydd llawer o ysgolion yn trefnu diwrnodau pleidleisio penodol, ac mae disgwyl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn gynnar ym mis Rhagfyr.

Sefydlwyd Senedd Ieuenctid Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi i'r senedd ieuenctid flaenorol - Funky Dragon - gael ei diddymu yn 2014 ar ôl colli nawdd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones: "Mae hyn yn digwydd wedi blynyddoedd o gynllunio ac ymgynghori gyda thros 5,000 o bobl ifanc ar draws Cymru ac mae'n rhan allweddol o sut y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys y genhedlaeth nesaf yn ein gwaith.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys ac sydd heb cofrestru i bleidleisio i ymweld â , i ddarganfod pwy sy'n sefyll yn eu hardal a sut maen nhw'n bwriadu eich cynrychioli."

Ffynhonnell y llun, Senedd Ieuenctid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gofyn i bleidleiswyr fod rhwng 11 a 18 oed ac mae'n rhaid cofrestru trwy wefan y senedd cyn 16 Tachwedd

Fel yn achos etholiadau eraill, bydd pleidleiswyr yn dewis o blith ymgeiswyr sy'n sefyll yn eu hetholaethau nhw.

Bydd y 40 ymgeisydd sy'n cael eu hethol yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd.

Ar ben hynny bydd 20 o bobl ifanc yn cael eu dewis i ymuno â'r senedd gan fudiadau yn cynnwys Urdd Gobaith Cymru, Girlguiding Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru.

Mae'r etholiad yn agor am 1000 ddydd Llun ac yn cau am 1700 ar 25 Tachwedd.