Â鶹ԼÅÄ

Cofrestru pleidleiswyr ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru

  • Cyhoeddwyd
senedd

Mae ymgyrch i gofrestru pleidleiswyr ar gyfer Senedd Ieuenctid newydd Cymru yn cael ei lansio ar Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanelwedd ddydd Iau.

Bydd modd i bobl ifanc Cymru, rhwng 11-18 oed, gofrestru ar-lein ar gyfer etholiad cyntaf y corff fis Tachwedd.

Yn ôl Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, bydd y corff newydd yn galluogi plant a phobl ifanc i roi eu barn ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Cymru yw un o'r unig wledydd yn Ewrop heb senedd ieuenctid, ar ôl i Gynulliad Plant a Phobl Ifanc y Ddraig Ffynci gael ei ddiddymu yn 2014.

'Llais i bobl ifanc'

Bydd gan y Senedd Ieuenctid newydd gyfanswm o 60 aelod - 40 aelod yn cynrychioli etholaethau Cymru, a fydd yn cael eu hethol trwy system bleidleisio electronig, ac 20 arall a gaiff eu hethol gan sefydliadau sy'n cynrychioli carfanau amrywiol o bobl ifanc.

Mae disgwyl i ganlyniadau'r etholiad cyntaf gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr eleni, ac i'r Senedd Ieuenctid gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2019.

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlu Senedd Ieuenctid yn cyflawni dyletswyddau'r llywodraeth i bleidleiswyr heddiw a phleidleiswyr yfory

Mae cwynion wedi bod am ddiffyg cynrychiolaeth gwleidyddol i bobl ifanc Cymru ers i Gynulliad Plant a Phobl Ifanc y Ddraig Ffynci golli ei chyllideb gan Lywodraeth Cymru yn 2014.

Mis Medi y llynedd fe gytunodd Comisiwn y Cynulliad i sefydlu Senedd Ieuenctid newydd.

Yn ôl Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, mae sefydlu'r Senedd yn rhan bwysig o ymrwymiad Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Dywedodd Ms Jones: "Mae sefydlu Senedd Ieuenctid yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau i bleidleiswyr heddiw a phleidleiswyr yfory, i bob dinesydd yng Nghymru - mae gan bob un ohonynt ran yn ein democratiaeth."