Â鶹ԼÅÄ

Dull ariannu ysgolion Cymru'n 'bryder' medd arbenigwyr

  • Cyhoeddwyd
Ysgol

Mae angen adolygiad o'r modd mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu yn sgil pryderon nad yw ysgolion tebyg mewn ardaloedd gwahanol yn cael eu trin yn gyfartal, meddai arbenigwyr rhyngwladol.

Mae adroddiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn dweud bod diffyg cysondeb ar draws awdurdodau lleol Cymru ynglŷn â chyllidebu ysgolion.

Dywedodd y gallai effeithio ar allu'r ysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno o 2022 ymlaen.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae yna "botensial" ar gyfer newid y fformiwla cyllido ar gyfer llywodraeth leol.

Sut mae ysgolion yn cael eu hariannu?

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu arian rhwng cynghorau er mwyn talu am wasanaethau fel ysgolion gan ystyried nifer o ffactorau.

Ond mae rhai wedi cwyno am y broses yna, gan ddadlau bod y fformiwla yn seiliedig ar hen wybodaeth a'n golygu bod rhai cynghorau ar eu colled.

Y cynghorau wedyn sy'n gyfrifol am benderfynu ar gyllidebau ysgolion unigol.

Maen nhw'n cadw rhywfaint o'r arian yma'n ganolog i dalu am wasanaethau sy'n cynnwys cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol a chludiant, ac mae gweddill yr arian yn cael ei roi i ysgolion ar sail fformiwla sy'n unigryw i bob sir.

Er bod yn rhaid i 70% o'r arian gael ei roi ar sail niferoedd disgyblion, mae cynghorau'n gallu rhannu'r gweddill yn ôl eu blaenoriaethau eu hunain gan edrych ar gyflwr adeiladau ysgol, lefelau tlodi neu ba mor wledig yw'r ysgol.

Y canlyniad yw bod ysgolion mewn gwahanol rhannau o Gymru, sy'n debyg o ran maint, yn gallu derbyn cyllidebau tra gwahanol.

Mae adroddiad yr OECD, y corff sy'n gyfrifol am brofion rhyngwladol PISA, yn ystyried y cynnydd wrth gyflwyno diwygiadau i'r drefn ysgolion yng Nghymru.

Ymhlith yr argymhellion, mae'n dweud bod angen edrych ar y drefn ariannu.

"Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod gwahaniaethau mewn modelau cyllid lleol yn achosi pryder ynglŷn â thriniaeth anghyfartal i ysgolion sydd mewn sefyllfaoedd tebyg", yn ôl yr adroddiad.

"Dylai Llywodraeth Cymru felly ystyried adolygu'r model cyllido ysgolion os am wireddu ei huchelgais i sicrhau cydraddoldeb, addysg a lles disgyblion."

Oedi ad-drefnu cynghorau

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus.

Yn ôl yr ymchwil, mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu'n "sefydliadau dysgu", ond mae "cyfran sylweddol" ymhell o wireddu'r amcan.

Ysgolion cynradd, meddai'r adroddiad, sy'n ymdopi orau, gyda llai o gynnydd i'w weld ar gyfartaledd mewn ysgolion uwchradd.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud:

  • bod angen cael gwared ar y codau lliwiau sy'n rhan o fesur perfformaid ysgolion;

  • dylai "lles" myfyrwyr gael ei ddiffinio'n glir ac mae angen mwy o bwyslais arno wrth werthuso;

  • dylai Llywodraeth Cymru ystyried gohirio unrhyw fwriad i leihau nifer yr awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod pob ymdrech yn mynd tuag at gyflwyno'r cwricwlwm newydd;

  • nad oes gan nifer o'r awdurdodau lleol llai y gallu i ymateb i anghenion plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

'Angen cyd-weithrediad'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus.

"Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am benderfynu faint o gyllid sy'n mynd i bob ysgol unigol", meddai llefarydd.

"Mae yna botensial i wneud newidiadau i'r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol, ond rhaid gwneud hyn gyda chydweithrediad y cynghorau i gyd."

Dywedodd y llefarydd eu bod am fonitro adolygiad y Pwyllgor Addysg ar ariannu ysgolion.